Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

6. Dewiswyd y brodyr a ganlyn: Y Parchn. Richard Morris, M.A., B.D., Dolgellau; John Williams, Corwen; Owen Ellis, Llanuwchllyn; W. M [orris] Williams, Cwmtirmynach; J. Howell Hughes, y Bala; a dymunwyd ar i Weinidogion Ffestin- iog, ddewis dau o blith eu hunain yng nghyfarfod y Gweinidog- ion, pan y cyferfydd. 7. Penderfynwyd fod y Pwyllgor i ddewis Cadeirydd, Ys- grifennydd a Thrysorydd, a dymunwyd ar i Gofrestrydd y Coleg [y Parch. J. T. Alun Jones] weithredu fel Cynhulludd y Pwyll- gor. 8. Pasiwyd yn unfrydol fod Cofrestrydd y Coleg i ddanfon gair at Proff. W. B. Stevenson yn diolch am y telegram yn datgan ei gofion a'i ddymuniadau gorau ar ran y Gymdeithas. Arwyddwyd: Hugh Williams. Hydref [Cywirwyd gan law arall i "Ragfyr" 1909.]." Ysgrifennwyd y Cofnodion yn ddiau gan y Parch. Owen Ellis, ond nid arwyddodd mohonynt, ac felly bu ei arfer tra bu yn yr ysgrifenyddiaeth. [Ac eraill ar ei ô1.] Cafodd y plentyn hwn ei enw priod yn fuan, a'r Cofnod nesaf, dyddiedig Rhagfyr 9, 1909, ydyw: Penderfyniadau Pwyllgor Undeb Athrofa'r Bala." Diddorol ydyw darllen pwy oedd aelodau cyntaf y Pwyllgor. "Yn bresennol: Dr. Hugh Williams; Proff. Phillips; Parchn. J. E. Hughes, B.A., B.D., Ffestiniog; Richard Morris, M.A., B.D., Dolgellau; J. Howell Hughes, Bala; a chofrestrydd y Coleg." Methodd gan y Prif- athraw Ellis Edwards â bod yno oherwydd trefniad blaenorol. Dewiswyd swyddogion cyntaf yr Undeb: Llywydd: Dr. Hugh Williams. Ysgrifennydd: Y Parch. Owen Ellis,. Llanuwchllyn. Trysorydd: Mr. R. T. Vaughan, Y Bala. Hysbyswyd hefvd benodi dau o weinidogion Ffestiniog ar y Pwyllgor-dau a fu'n dra ffyddlon i'r Undeb ar hyd eu hoes, sef, y Parch. J. E. Hughes, a Thomas Hughes, ac ef yn unig a erys o'r Pwyllgor ac o'r Undeb hyd y gwyddom er ei gychwyn. Awgrymog yw'r cofnod: Penderfynwyd argraffu circular neu adroddiad yn cynnwys enwau Swyddogion, aelod- 'au, a rheolau yr Undeb (tebyg i'r eiddo y "New College Union "). Anodd peidio ag olrhain tras yr Undeb i'r Alban.