Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llawysgrifau Newydd o'r Aifft. Ar hyn o bryd y mae pethau'n eithaf tawel ynglŷn â Sgrol- iau'r Môr Marw, ond ni pheidiodd darganfyddiadau newydd mewn maes arall. O'r Aifft fe ddaw nifer helaeth o lawysgrifau a fydd eto yn goglais chwilfrydedd, gan anesmwytho rhai cred- inwyr a pheri i efrydwyr Beiblaidd a hanes yr Eglwys bendroni ynghylch eu harwyddocâd. Rhoddwyd eisoes beth sylw iddynt yn y papurau newydd, a diau fod lle iddynt yn y patrwm cyff- redinol a ddylai fod yn nodweddu pob ymgais i ddehongli ein ffydd, ac am hynny ceisiaf roi amlinelliad o'u cynnwys mewn ysgrif i'r TRAETHODYDD. Gobeithiaf gael cyfle cyn bo hir i ysgrifennu eto ar eu cefndir. Gyda llaw, nid oes a wnelont ddim â Sgroliau'r Môr Marw, a damwain yw iddynt ymddangos yr un pryd. Yn yr Aifft y cafwyd hwynt, yn 1946. Y mae tair ar ddeg o gyfrolau wedi eu rhwymo mewn lledr, ac wedi eu hysgrifennu ar bapurfrwyn; cynhwysant bron hanner cant o lawysgrifau an- nibynnol. Copteg yw'r iaith, ond y mae'n amlwg mai cyfieithiad ydynt, gan mwyaf, o Roeg, ac y mae llawer o eiriau benthyg Groeg ynddynt. Ffurfient ran o lyfrgell Gnosticaidd, o'r bed- waredd ganrif O.C., ond cafwyd hyd iddynt mewn cawg ym meddrod rhywun mewn mynwent yn ymyl Nag Hammadi, hen dref rhyw hanner can milltir o Luxor. Nifer o wladwyr a'u ffeindiodd wrth iddynt dirio am lwch gwrtaith mewn creigiau gerllaw, a gwerthwyd hwynt i ddechrau i hynafiaethwr yng Nghairo. Oddi yno, daeth y mwyafrif i'r Amgueddfa Goptig yng Nghairo, ond llwyddodd rhywun i gael un o'r cyfrolau, a gynhwysai dair llawysgrif, i'r C. G. Jung Institute yn Zürich yn fuan wedi'r darganfyddiad. Yn y cyfamser bu arbenigwyr yn eu trafod-yr Athrawon H. C. 'Puech a Guilleumont o'r Sor- bonne ym Mharis, Quispel o Utrecht a William Till o Fancein- ion, ac y mae'r gwaith yn gyffredinol dan arolygiaeth Dr. Pahor Labib, cyfarwyddwr yr Amgueddfa Goptig yng Nghairo. Bu'r bobl hyn wrthi'n ddyfal oddi ar 1946, ond yn 1956 y dechreu- wyd cyhoeddi'r llawysgrifau a bellach y maent yn weddol ad-