Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Cyflwynedig i Mrs. Menai Jones, Llundain.) Llundain. Eryri. Byw'u hen rhwng ei bannau hi-a brudio Am baradwys ynddi; Hyn yw aidd fy nghalon i Yn nhir eurem Eryri. Eryri dan wawr arian-aruthr yw A'i threm yn oleulan, Nes ery rhuddwawn sirian A derfydd y dydd yn dân. Tân ei chariad hen chwerwedd- ysodd I dreisio cynddaredd, A gwybu awr ei mawredd Yng ngwawl haul efengyl hedd. Hedd ei llynnoedd a'i llannau-a orffwys Mewn diarffordd lwybrau; O mor annwyl ym mryniau Mebyd yw bywyd y bau! Bau corwynt braw, ac awel-anhunedd Y glasdonnau tawel; Heini ŵr yw'r un a wêl Lug euraid ôl y gorwel. Gorwel Eryri ddien — a'i olud Anwylais yn fachgen: O am weled gem heulwen Y bannau hardd a byw'n hen! ELLIS AETHWY-JONES.