Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Cymeriad a Swydd y Proffwyd yn yr Hên Destament. PERY proffwydi'r Hen Destament a'u llyfrau i ennyn diddordeb pob un a gydnebydd werth hanes y datguddiad o Dduw a geir yn y Beibl. Ac yn hanner cyntaf y ganrif bresennol cyhoedd- wyd astudiaethau pwysig a gais esbonio cymeriad a swydd y proffwyd yn Israel. Prin fu'r drafodaeth ar rai o'r astudiaeth- au hyn mewn cylchgronau Cymraeg, ac felly credwn mai budd- iol fyddai taflu golwg dros gyfraniadau gwahanol ysgolheigion. Er inni ganfod amrywiaeth yn syniadau ysgolheigion ac yn yr esboniadau a gynigiant ar gymeriad a swydd y proffwyd, eto credaf y cytunent oll i gydnabod pwysigrwydd cyfraniad y proffwydi i arbenigrwydd crefydd Israel. (Sylwer ein bod am osgoi'r ymadrodd "crefydd yr Hen Destament." Perthyn i bersonau y mae crefydd, ac nid i lyfr. Cronicl o hanes y gref- ydd a ellir ei gael mewn llyfr.) Fel hyn yr ysgrifenna N. W. Porteus, For the appreciation of the uniqueness of Israel's religion there is no source to equal the prophetic writings. Even the Psalter, for all that it is the world's greatest manual ,of devotion and worship, must take second place. Ac y mae cyfraniad y proffwydi, sydd mor bwysig i grefydd Israel, yn bwysig hefyd. i ddeall y ddiwinyddiaeth Gristionogol. Daeth yr Iesu i gyflawni y gyfraith a'r proffwydi." Dyletswydd pob Cristion yw ceisio deall hanfodion y ffydd Gristionogol, ac y mae astudio cyfraniad proffwydi Israel yn gymorth i ddeall meddwl Crist." Tarddodd y gair Cymraeg proffwyd trwy'r Lladin o'r Groeg. Y syniad poblogaidd a gyplysir â'r gair yw rhag- N. W. Porteus, Prophecy yn Record and Reyelation, Gol. H. Wheeler Robinson, ,tud. 216. CYFROL CXV. Rhif 495. Ebrill, 1960.