Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T. W. Manson. — Teyrnged Fer. RHAN bwysig o'r dasg o ddehongli'r ffydd Gristionogol ym mhob cyfnod ydyw esbonio ystyr dysgeidiaeth a chenhadaeth Iesu Grist ei Hun. Gwnaeth yr Athro T. W. Manson, Manceinion, a fu farw Ebrill, 1958, er dirfawr golled i ni, gyfraniad nodedig at y gwaith hwn yn ein hoes ni. Y mae'n sicr y bydd ei lyfrau, The Teaching of Jesus, The Sayings of Jesus, a The Sen/ant Messiah yn symbyliad gwerthfawr i astudiaeth yr Efengylau o hyd. Daeth Mänson at ei waith ag adnoddau cyfoet'hog a dis- gyblaeth drylwyr, gan feddu cymwysterau o'r radd flaenaf mewn athroniaeth ac astudiaethau dwyreiniol (Hebraeg ac Aramaeg). Ceir y manylion hanfodol am ei yrfa bellach yn y rhagarweiniad i'r gyfrol o draethodau a gyhoeddwyd er cof amdano, sef New Testament Essays (Studies in Memory of T. W. Manson, Gol. A. J. B. Higgins). Ganwyd ef yn North Shields, Northumberland, yn 1893, a chafodd ei addysg golegol ym M'hrifysgol Glasgow ac yng Nghaergrawnt (colegau Westminster a Christ's College). Bu'n athro yng Ngholeg Westminster o I922—25, ac yn weinidog ar eglwysi Presbyteraidd yn Bethnal Green ac yn Falstone, North- umberland, o 1925-32. Yna o I932—36 bu'n Athro yn y Testament Newydd yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, a di- weddu ei yrfa ym Manceinion, lle y bu'n Athro Beirniadaeth ac Esboniadaeth Feiblaidd yn y Brifysgol o 1936-1958. Bu'n Llywydd Cymanfa Eglwys Bresibyteraidd Lloegr yn 1953. Ceir datganiad nodweddiadol o'i safbwynt diwinyddol a'i osgo tuag at ei waith fel ysgolhaig yn ei draethawd: The Fail- ure of Liberalism to Interpret the Bible as the Word of God.* Dengys yn glir nad yw'n fodlon ar y dehongliad arwynebol a gor-syml o Grist fel dysgawdwr moesol a roddwyd gan rydd- frydwyr diwinyddol fel Harnack ac eraill. Dyma eiriau nod- weddiadol: The crucial test for Liberalism — or any other Yn y gyfrol The Interŷretation of the Bible, Edward Alleyn Lectures, 1943 (S.P.C.K., Ed., C. W. Dugmore).