Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eglwys. Bu ein Harglwydd Iesu Grist fyw yn nyddiau ei gnawd, gan fyned oddi amgylch i ddysgu am Deyrnas Dduw mewn cym- deithas ag iddi nodweddion pendant ac arbennig iawn. Gellir ei galw gyda chryn briodoldeb yn Israel Duw. Yr oedd yn hen iawn pan aned Iesu Grist iddi; cymdeithas urddasol a dynion mawr wedi bod yn golofnau ac ysbrydiaeth iddi ydoedd, dynion fel Abraham, Moses, a Jeremeia. Dynion wedi eu galw gan Dduw oeddynt hwy, ac y mae i'r gair Galw yn y cysylltiad hwn arwyddocâd neilltuol. Y mae'r gair "galw" yn rhan hanfodol o'r gair Eglwys." Dyma ran o "bader" y gymdeithas Iddew- ig dan sylw, Clyw, O Israel, yr Arglwydd ein Duw ni sydd Un Arglwydd. Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth." Y mae'n bwysig cofio i'r Arglwydd Iesu gael ei fagu mewn cymdeithas a gymerai y geiriau hyn o ddifrif, ac fe anrhydedd- odd yntau hwy mewn gwirionedd. Trysor pennaf y gymdeithas Iddewig ydoedd Y Gyfraith a roddwyd iddi gan Dduw trwy Moses. Yr oedd Duw ei Hun yn Y Gyfraith. Cymdeithas Y Cyfamod Dwyfol yn byw wrth Y Gyfraith ydoedd awyrgylch feunyddiol bywyd Iesu Grist. Nid rhywbeth a ffurfiodd Ef yd- oedd, yn hytrach cafodd ei Hun ynddi. Er mor rhagorol ydoedd y Gymdeithas hon ar lawer cyfrif, buan y gwelwyd ei amherffeithrwydd "er iachawdwriaeth" ar ôl dyfodiad Iesu Grist iddi. Gwnaeth Ef yn eglur iddo ddyfod i gyflawni'r proffwydoliaethau." Daeth i fod yn Gyfryngwr Y Cyfamod Newydd a amlinellwyd mor rymus gan Jeremeia. Daeth fel y Gwâs Dioddefus a ddarluniwyd mor berffaith gan yr Ail Eseia. Daeth yng nghyflawnder yr amser i fyw'n ys- grythurol mewn hanes, ac yn ôl Paul, i farw ac atgyfodi "yn ôl yr Ysgrythurau." Daeth i iawn sefydlu llywodraeth ei Dad ar y ddaear, a sylweddolwyd pwerau'r llywodraeth frenhinol hon trwy'r pethau a ddywedodd ac a wnaeth Ef ymhlith ei bobl. Teyrnas Dduw oedd ei drychfeddwl mawr, a pha le bynnag yr oedd Ef, yr oedd y Deyrnas wedi dyfod.