Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Richard Price a'r Senedd. CYNHYRFIR ein byd ymhob cwr heddiw gan syniadau rhyfedd am reolaeth gwlad, a llawer cynnig sydd o hyd a.m ryw ffurf o lywodraeth i drin dynion fel bodau cymdeithasol. Gwelwn yn rhy fynych, ysywaeth, syniadau eithafol yn cael bri, a'r rhain yn gorwedd rhywle rhwng y pell begynau o lwyr ataliad a gor- ryddid. Rhywbeth yn debyg y bu yng nghyfnod Richard Price (1723 -1791) yn y Ddeunawfed Ganrif a'i harlliwiau man o bwysleis- iau amryfal a berthyn, o ran hynny, i bob adeg o fympwy gwein- yddol a phob cyfnod o ffug wareiddiad. Un o broblemau Price oedd sut i setlo cwestiwn rhyddid gwladwriaethol yn nhermau moeseg a chrefydd. Yn wir, gofynnir yn aml ynglyn ag athron- iaeth boliticaidd Price, a oedd ganddo ganolfan gadarn o awdur- dod ac o hollalluowgrwydd yn ei gyfundrefn? Crybwyllwn, yn wyneb ffeithiau heddiw, fod cred ar gerdded sy'n mynnu hawlio na all unrhyw lywodraeth ddelfrydol neu ymarferol sefyll mewn unrhyw fodd heb y math hwn o awdurdod yn asgwrn cefn iddi. Cyhoeddodd Price yn glir ei argyhoeddiad, Bod rhyddid moesol yr un yn union yn ei faeth i'r unigolyn ag yw rhyddid gwladwriaethol i gymdeithas." Yn ei dermau ef, gan hynny, y imae'r llywodraeth, o ran anian, i fod yn ymddiriedaeth lwyr a phob gallu o'i heiddo i'w ddefnyddio er anelu at nod fyddai'n cynnal y cyflwr gorau er maintais y nifer fwyaf. Nid oedd pwnc deuoliaeth y Ddau Dŷ — Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin,-o fawr bwys iddo fel y cyfryw. Yn ôl ei ffordd negyddol ef o feddwl ar y testun hwn, ni ddylai'r Senedd gynnwys ond rhai a etholwyd am gyfnod byr, a rhoi ar ddeall iddynt ,mai eu gwaith oedd diogelu cyfraith yn y wlad a rhannu'n deg y trethi er lles cyhoeddus. Collai'r Senedd nawdd y bobl, a'i hawdurdod ei hun drwyddynt, cyn gynted byth ag y defn- yddiai ei hawdurdod ar gam er mwyn estyn hyd ei chyfnod hi ei hun, gan i weithred felly ar ei rhan olygu fod yr hawl i sef- ydlu a chynnal canolfan awdurdod yn y Deyrnas a thros y bobl- ogaeth yn cael ei throsglwyddo o ddwylo'r etholwyr i eiddo'r