Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Maentwrog. I. Heddiw euthum ddiwethaf I mewn i'w hedd ddiwedd haf: Dyffryn hardd, fel gardd i gyd, Ar fin dwr afon Dwyryd. Newydd aidd o hen ddyddiau O'i fewn sydd yn fy nwysáu. Diomedd y daw imi Ei solas o loywlas li. Difyr yno hyd fronnydd Yw rhodio'n awr, o dan wvdd. Tirion ar haf yw troi'n rhydd Am awr wen ym Meirionnydd. 2. Ar dawel su'r deheuwynt Nofiai i gof dangnef gynt, Man lle'r ydoedd :gweddoedd gwâr Dolydd o gefn i dalar. Wrth y dasg brydferthed oedd Digroeni, torri tiroedd! Pot) cwys lyfndeg yn nhegwch Rhesi hir yn gloywi'r swch. Pob gwanwyn â'i ŵyn, a'i wig Yn fyw iasol o fiwsig: Hafaidd gwm wrth fodd y gog, Cartre'r wiwer a'r eog. Mwyn hyd y fro, mewn di-frys Ddiofalwch oedd felys, Cerdded rhwng ceinciau irddail O dan dew gysgodion dail. Caru clywed ehedydd,