Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyffelybiaethau R. Williams Parry. YSGRIFENNODD llawer o dro i dro ar ddoniau eithriadol R. Williams Parry fel bardd, gan gyfeirio at aml rinwedd yn ei grefft, megis ei feistrolaeth ar y mesurau caet'h, treiddgarwch ei feddwl, ei welediad clir, glendid ei ymadrodd a'i fedr difeth i ddewis yr union air ar hyd y ffordd. Ond nid wyf yn cofio imi weled na darllen dim gan neb a fu'n astudio trosiadau neu gyff- elybiaethau Bardd yr Haf." Nid wyf yn cofio chwaith gweld cyfeiriad o gwbl 'gan y bardd ei hun at yr addurn hwn nac yn ei waith ef ei hun nac yng ngweithiau beirdd eraill, addurn sy'n rhan mor brydferth yng nghelfyddyd y bardd. Ni wn a wnaeth y Dr. T. Gwynn Jones astudiaeth fanwl arbennig yn y peth hwn ai peidio. Ond, fel y dywedais mewn ysgrif ar ei gyffelybiaethau, fe gyfeiriodd o leiaf ddwywaith at yr addurn hwn; yn y naill achos, pan yw'n ysgrifennu ar Dante ac yn y llall lle mae'n trafod barddoniaeth Ossian a Macpherson gan gyfeirio atynt fel beirdd yr awyr agored. Y mae lle i gasglu bod dylanwad y beirdd hyn yn lled ärwm ar y Dr. T. Gwynn Jones fel y gwelir o gymharu'r hyn a ddywed ef am- danynt â'r math o drosiadau sydd yn ei waith ef ei hun. (Gw. Dante ac O'r N eilltu-Astudiaethau.) Y mae pob rhan o'r Comedia," meddai "yn llawn o gyffelybiaethau barddonol pryd- ferth, megis y disgrifiad o'r enaid yn dyfod o law Duw fel geneth fach 'yn wylo ac yn chwerthin yn ei hafiaith.' Sonia am "liwiau'r wawr a'r blodau a'r dail, cryndod tonnau'r môr, goleuni'r haul a'r ser sydd yn y Purdan (tud. 21) — yr union betihau sy'n nodwedd ar lawer o waith T. Gwynn Jones. Yn yr ysgrif arall dywed nad "ofer ei hoedl pe cawswn ei threulio hyd yr awr olaf heb wneuthur dim ond gwylio heulwen a chwmwl, niwl a glaw a dyfod i adnabod mwsogl a rhedyn, blodau a choed, gwybed ac adar a'r mârt anifeiliaid gwylltion sydd eto heb eu difa o'r wlad" (tud. 115). Onid yw barddoniaeth y Dr. yn dwyn delw gweithiau "beirdd yr awyr agored ,hyn yr edmygodd gymaint arnynt ? Gwelir hyn yn y defnydd manwl a wnaeth o fyd natur wrth lunio ohono