Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llaeth Enwyn. Llaeth enwyn, llith i heini Llith gorau i'n nerfau ni: Llith beunydd yn nydd fy nhaid, Lle .yma ceffìr llymaid ? Llaeth enwyn, llaith ei anian, Llesol lith, fel y gwlith glân; Llaeth enwyn fu'n llith Wynedd; Llyn â maeth fi'l gwell na medd. Llwnc yn bryd wnai'n llencyn braf Llywelyn ein Llyw Olaf; Lliwiai rudd Morfudd ym Mai, Lloer â Dafydd gellweiriai: Lleucu Llwyd 'hwn a fwydai, Lliw blodau i'w gruddiau gai; Lliw rhuddaur Llio Rhydderch," Llaeth a'i gwnaeth, da faet'h i ferch; Llywethau ihon, lliw eithin, Llaeth a roes i'w llwythi rin. Llaeth i'r ddyn a'r llathraidd wr: Llawforwyn a llafurwr, Lluniaeth fu i'r amaethwr, Llith y dydd oedd llaeth a dwr; Lleibiai'r bugail laeth eilwaith Lle bai'r myllt ger llwybrau maith, Llety'r grug, lIe trigai'r ŵyn, Llamu dan ganu'r gwanwyn. Llyfn eu gwedd oedd llafnau gynt, Llunieiddaf, llawen oeddynt; Llaeth pêr a fagodd werin, Llyna'r maeth llawn ar ei min; Llwy bren yn llaw barwniaid, Llaeth enwyn ac enllyn gaid. Llawer cae ddydd cynhaeaf Llaeth oer roes, o llethai'r haf