Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llanrwst. H. PARRY JONES. GWERTHFAWROGI LLENYDDIAETH. H. J. Hughes. Gwasg Prifysgol Cymru, 1959. Tt. xxxi, 182. 9/6. Y mae'r gyfrol hon yn cynysgaeddu'r athro Cymraeg o'r diwedd â'r offer hwylus hynny, tebyg i Reading and Discrimination, Denys Thompson, Meaning and Style, A. F. Scott, Understanding and Appreciation, A. S. Collins, sydd wedi bod at wasanaeth yr athro Saesneg ers blynyddoedd, ac y mae casglu esiamplau o ryddiaith a barddoniaeth y gellir eu trafod o saf- bwynt llenyddol, a .gosod cwestiynau arnynt, yn gymwynas ymarferol. Blaen- orir y deíholion a'r ymarferion gan ragymadrodd lle pwysleisir mai pwrpas gwerthfawrogi yw astudio'r moddion a ddefnyddiodd yr awdur, a cheisio penderfynu a lwyddodd yn ei amcan. Awgrymir y jgellir canfod amcan awdur wrth sylwi ar ei ieithwedd; a chan mai'r hyn a gawn mewn llen- yddiaeth yw'r cyfle i weld profiad fel undod," eglurir mai pwrpas ter- fynol beirniadaeth yw "dangos sut y crëir yr undod hwn," megis dangos fel y mae'i bardd neu'r Uenor wedii cael hyd i'r union air i gyfleu rhyw syniad neu ddarlun." Dyfynnir esiamplau yn awr ac yn y man i egluro'r pwyntiau hyn ond gan na wneir mwy nag italeiddio ambell air yn y dyfyn- iadau, heb eu trafod o igwbl, rhaid gobeithio na thybia neb o ddarllenwyr y gyfrol y byddai tynnu llinell o dan air, a dweud mai dyna'r union air i gyfleu'r synad, yn brawf o werthfawrogiad deallus. Eithr er gwaethaf y dull damcaniaethol o'i chyflwyno, y mae'r ddadl mai astudio tystiolaeth y moddion a ddefnyddir yw gwir ystyr "gwerthfawrogi" yn fuddiol dros ben. Ar 81 y drafodaeth gyffredinol yn rhan gyntaf y rhagymadrodd rhoddir ymarferion emghreifftiiol fel patTwm o'r hyn yr anelir ato. Gofynnir saáth cwestiwn ynglŷn â darn o ryddiaith o waith Morris Kyffin, a saith arall ynglŷn â dwy gerdd ddiweddar, ac atebir y rhain yn syml a chryno. Hytrach yn annisgwyl yw gweld Crib Goeh T. Rowland Hughes ac Ystad Dyn J. M. Edwards yn cael eu gosod .gyda'i gilydd at amcanion cymharu Lle ceir yr hen ymenyn ? Llwgir o laeth Lloegr i Lyn; Llygeidyn yw 'menyn mwy, Llyma hirlwm, llym arlwy. Llaeth enwyn, 'menyn 'r un modd, Llo aur yn llwyr a'u lloriodd. Llafurwarith gaiff llefrith gwyn, Llith anwel yw llaeth enwyn. Adolygiad.