Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Gwyddel a'i laith: Yr Argyfwng Diddorol a phwysig i bob Cymro sy'n poeni am ddyfodol ei iaith ei hun yw helynt ieithoedd bychain eraill yn y byd modern. Yma fe geisiwn fwrw golwg ar hynt yr Wyddeleg ymhlith y Gwyddyl yn ystod y ganrif a hanner olaf yma, cyfnod terfysg- lyd a thyngedfennol iawn yn hanes y genedl anffodus hon. Yn arbennig fe sylwn ar a ddigwyddodd o 1921 ymlaen, sef o'r flwyddyn pan enillodd y wlad, neu o leiaf ran ohoni, annibyn- iaeth wleidyddol, a hawl i reoli ei bywyd ei hun. Mae'r Wyddeleg, fel y Gymraeg, yn iaith Geltaidd; y mae hi'n hen, ac felly'n barchus. Am dros fil a hanner o flynydd- oedd, fe fu hi'n iaith y Gwyddyl, fel y bu'r Gymraeg yn iaith y Cymry. Fel llawer peth arall Celtaidd mae iddi orffennol dis- glair. Cadwyd swm go sylweddol 0 lenyddiaeth o'r cyfnodau cynnar, llenyddiaeth sy'n ddigon tebyg o ran dull a defnydd i weithiau ein beirdd a'n llenorion cynnar ni. Fel y Gymraeg hefyd, fe fu ar un adeg yn iaith llys a chyfraith, yn iaith dysg a diwylliant. Am dros fil o flynyddoedd fe'i siaredid dros Iwerddon oll, er ymosod arni'n ffyrnig o bryd i'w gilydd. Yn eu tro fe ddaeth Sgandinafiaid, Normaniaid, a Saeson i'r wlad ac ymsefydlu ynddi, eithr nid cyn dechrau'r cyfnod diweddar, sef yn fras o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen y dechreuodd yr iaith encilio a dihoeni. O'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen amddifadwyd yr iaith o'r urddas a berthynai iddi cyn hynny. O ganlyniad i ddigwydd- iadau a chyfnewidiadau gwleidyddol a chymdeithasol, nad oes ddiben manylu arnynt yma, fe gollwyd nawdd y bendefigaeth frodorol, a gadawyd yr Wyddeleg bron yn llwyr yn nwylo'r werin,­-gwerin dlawd, ddiamddiffyn, hygoelus ac anllythrennog. Ni fu nemor ddim diwyllio na datblygu arni am ddwy ganrif a mwy, a phrin y dylanwadwyd arni o gwbl gan fudiadau a chyffro- adau o'r tu allan. Mae un peth i'w gofio, fodd bynnag. Fe drysorwyd yng nghof y werin lawer o'r hen lenyddiaeth, a hyd CYFROL CXV. RHIF 496. GORFFENNAF, 1960. H