Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Alltud ar ci Hynt: Crefydd Victor Hugo Pererin wy 'n y byd, Ac alltud ar fy hynt. Fel y mwyafrif o fechgyn dawnus ac uchelgeisiol ei genhedl- aeth, bu Victor Hugo yn edrych i fyny xgydag edmygedd a pharch at y cawr llenyddol o Lydaw, sef Chateaubriand. Chateattbriand neu ddim-dyna wyf am fod," meddai, pan oedd yn llanc addawol bedair ar ddeg oed. Yr oedd yn ymwybodol iawn yr adeg honno, fel yr oedd trwy weddill ei oes, mai Llydawr ydoedd ef ei hunan ar ochr ei fam, Sophie Trebuchet. Yr oedd yn falch bob amser o'i waed Llydewig, ac yn hysbysu'r ffaith yn ei farddoniaeth. Yn rhinwedd y ffaith yr oedd yn teimlo'n agosach fyth at Chateaubriand: onid oeddent o'r un hil? Dywed archwilwyr diweddar fod hen waed Celtig yn rhedeg trwy wythiennau Victor o ochr ei dad hefyd. Yr oedd yr enw Hugo, meddent, er yn boblogaidd iawn ymhlith y llwythau Almaenig, o darddiad Celtaidd. Y mae'r enw yn ffurf o "Hug" neu Httw," ac yn golygu Meddwl. Nid oedd Victor Hugo yn gwybod dim am hyn. Ped amgen, buasai'n sicr o wneud defnydd o'r iffaith, a gweithio arni gyda'i ddychymyg creadigol. Ond rhaid oedd iddo ymfodloni ar linach ei fam, hithau yn ferch i deulu oedd wedi byw trwy'r canrifoedd yn Neheudir Llydaw. Teulu o amaethwyr oeddynt, ac wedi troi pridd Llydaw er y dyddiau cynnar. Yr oedd rhai o aelodau'r teulu wedi gwrando ar alwad y môr ac wedi troi'n forwyr a chapteiniaid, yn hwylio 0 borthladd Nantes i gyrrau pellaf y byd. Un felly oedd tad Sophie Trébuchet, y Capten Trébuchet, taid Victor Hugo. Bu farw Chateattbriand yn 1848 a'i gladdu, yn ôl ei ewyllys ei hun, ar ynys fechan y Grand Bey, ger Saint Malo. Yno yn awr yr oedd y Cyfareddwr yn huno, ac o gwmpas ei fedd unig clywid hwiangerdd ddibaid môr glas Armorica. Ymhell oddi wrth sôn y dyrfa, twrw byd y byw, yr oedd y Pererin wedi cyrraedd ei fedd ar un o ynysoedd y gorllewin, yr Ynysoedd Bendigedig, a Môr y Seintiau'n canu o'i amgylch eu hemyn tragwyddol.