Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

aeth yr alltud oedd y weledigaeth hon­yn cynnal gobaith y gwladgarwr oddi cartref y byddai'n cael mynd yn ôl, mewn cyf- lawnder amser, i'w bur hoff bau. Gweledigaeth y mab afradlon ydoedd, yn dod a theimlad dwys o edifeirwch a maddeuant i grwydryn mewn gwlad bell. Yn nychymyg tanllyd Hugo, fel yn nychymyg Ioan Sant, yr oedd ei garchar ar yr ynys unig wedi tyfu'n symbol o'r byd tywyll hwn, byd wedi ei dorri i ffwrdd gan bechod o oleuni'r Nef. Ond yr oedd tosturi grasol y Duwdod o blaid cymod ac undeb. Byddai'r alltud politicaidd yn sicr o droedio unwaith eto ar ddaear dyner ei Ffrainc annwyl. Yn yr un modd byddai dyn, ar derfyn ei daith ddyrys trwy'r byd, yn sicr o gyrraedd y Bryniau Hyfryd. Byddai Satan ei hun, tywysog y tywyllwch, yn cael ei hun o'r diwedd o flaen yr Orsedd, a'i dywyllwch dudew ofnadwy yn cael ei lyncu i dragwyddoldeb gan y Golau Gwir. SlLYAN EVANS. Hau'arden. Dadleuon Gwae inni grwydro o'r Baradwys wiw, A rhoddi geiriau sarff yng ngenau dyn; Herio a darnio creadigaeth Duw, A chreu dadleuon dros ein byd di-lun: Gweithio ryw thesis mewn gwyddonol iaith, Ac yna'i droi'n antithesis i ddim Ond creu esgusion dros ddieflig waith Dadleuon newydd y meddyliau chwim. Yr Hollalluog yn ei Nef a chwardd Wrth weld y psyche arno'i hun yn troi, A chanfod yn ei hanfod enaid bardd, Er dadlau'n groes, a cheisio ei osgoi. Dadlau heb wybod y mae dyn o hyd, Ond Duw, heb ddadlau dim, sy'n llywio'r hyd. ALUN Daytes. Llanymddyfri.