Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diflas yw'n Cymdeithasau O gario'u brig i'r gro brau. Cymryd aur Cymrodoriaeth I'r lludw oer, a ellid waeth? A throi i elawr athrylith Maestro llên, pen-meistr y llith ? Ni roed i bwll beddrod bach Ynghudd ieithydd oedd ddoethach. O droi saer wnâi drwsio iaith I'r gro'i huno, gwae'r heniaith; Lle bo gwall bwy a'i gwella ? A phwy yn hwy a'i glanhâ ? Iawn byth yw anobeithio Am yr iaith os marw yw o Diau llygru wna'n fuan, Marw o glwy' wna'r Gymraeg lân. Dwfn yw oedfa ein hadfyd, A mawr yw gwaedd Cymru i gyd; Gwaedd hir ymhob sir y sydd, Mwya'r un ym Meirionnydd, Oherwydd (gwae o'r hiraeth!) Ddwyn gwas Crist yn ei gist gaeth; A rhoi gwr hoyw, gloyw ei glod, A dyn Duw o dan dywod; Dwyn o Ie praidd Wesle wan Y llaes wr a'r llais arian! A rhoi i oerllyd raean Gennad rheiol dwyfol dân Ei ddoniau ddenai ddynion Pob plwy' rhwng Mynwy a Môn Gwin ei daer genadwri O Dduw nef a'n meddwai ni; Alpwr oedd yn ei bulpud A dawn fawr. gwae'i fod yn fud!