Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nofelau am Wyddoniaeth. Oujìrwydu y pwyslais a'r lle cynyddol a roddir heddiw i wyddon- iaeth a thechnoleg, peth naturiol yw fod dosbarth newydd o nofelau wedi ymddangos yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf a mwy sy'n rhoi cyfle i ffantasíau am y pethau y mae'r gwyddon- ydd yn eu trafod. Yr enw Saesneg cyffredin ar y deunydd yma ydyw á science fiction," neu S.F. yn fyr, ac erbyn hyn byddai angen catalog hir i roi cyfri am yr holl nofelau a gynhwysir yn y dosbarth hwn. I lawer, nid yw'n golygu mwy na nofeletau byrion a werthir yn rhad a lliwgar i blant ac i blant plant; yn wir, nid yw cyfran helaeth ohono yn fawr gwell na chyfres o luniau heb ddim mwy o eiriau wrthynt nag sy'n ddigon i'r dylaf fedru dilyn y cysyllt- iad rhwng y naill lun a'r llall. Pobl ieuainc rhwng 17 a 23 oed yw prynwyr trymaf y deunydd hwn, ond ceir rhai hyn na hynny yn ei brynu hefyd, canys yn ystod yr un cyfnod fe gododd cen- hedlaeth na all ddarllen, dim ond syllu ar luniau. Ond nid ar y lefel hon y ceir pob nofel am wyddoniaeth a'r dyfodol gwyddonol; mae nifer da ohonynt sydd yn haeddu sylw ac astudiaeth am eu bod yn anelu at rywbeth uwch. Am rai o'r rheini y bwriadaf sôn. Un o'r awduron amlycaf ar y dechrau oedd H. G. Wells. Sgrifennodd doreth o nofelau yn y traddodiad cyffredin, ond cyhoeddodd hefyd storïau a fwriadai fel deunydd ysgafn, megis First Men on the Moon, The War of the Worlds a'u tebyg. Bu mynd arnynt ac erbyn hyn, odid mawr na chofir Wells oherwydd y straeon hyn ac nid fel nofelydd yn ystyr lawnaf y gair, er mor annheg ag ef yw hynny. Canys fe ddigwyddodd ei storïau gymathu pwnc i'r nofel a oedd yn ymledu ei adenydd. Erbyn dechrau'r ganrif hon daeth- ai llawer o'r darganfyddiadau gwyddonol a seryddol a wnaed yn ystod banner olaf y ganrif ddiwethaf yn weddol hysbys i gylch eang o bobl nad oeddynt na gwyddonwyr na seryddwyr. A pheth arall, dechreuodd anffaeledigrwydd y gwyddonydd ddi- sodli anffaeledigrwydd yr Eglwys a'r Hen Destament. Y cwbl a wnaeth Wells oedd chwarae ar ddychymyg cynulleidfa a oedd