Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wir nad ymdrin â chyflwr. dyn yn y byd sydd ohoni yw ei bwrpas cyntaf* ac mai fel deunydd diddanwch y bwriadwyd ef (ar wahân i lenyddiaeth y soseri). Ond yn ei orhoffedd, fe ddengys dyn lawer mwy ohono'i hunan, yn anymwybodol, nag mewn traeth- awd neu gorff o ddiwinyddiaeth ffttrfiol neu lyfr ar gymdeith- aseg. Credaf felly fod y deunydd hwn yn bwysig atn mai ym- gais dynoliaeth anghrist i raddau pell ydyw i greu metaffiseg a diwinyddiaeth waredigol newydd. Edlych yn unig ydyw o ddi- winyddiaeth Gristionogol; nid yw'r cyfryngwr o'r gwagle, er ei fod ar ffttrf dyn, yn ei aberthu ei hunan dros ddynion; nid adfer dyn er ei fwyn ei hun yw pwrpas yr ymweliad ond ei orfodi i fyw'n ddiniwed am- ei fod yn debyg o beri diflastod i'r bydysawd neu i'r blaned y mae'r ymwelydd yn dod ohoni. Mae'r cyfan, mi debygaf, yn ddrych o'n haddysg boblog- aidd a'n gwareiddiad heddiw. Rhydd theori addysg bwyslais heddiw ar y pen a'r llaw, a lleiafrif erbyn hyn yw'r ysgolion hynny sy'n rhoi pwyslais ar astudio cyfanrwydd dyn, yn ben, Haw a chalon. Clodforir addysg dechnegol a gwyddonol; gradd mewn gwyddoniaeth heddiw yw'r abracadabra i safleoedd uchaf y byd ac yn y cyfamser crebychir a basheir yr astudiaethau hiwmanistaidd megis llenyddiaeth, y celfyddydau a'r clasuron. Ystyr hyn yw fod gwir ffynonellau gwareiddiol bywyd, sef dysgu anhunangarwch, dofi a dyrchafu emosiynau, ymarweddiad bonheddig, hunanreol a hunanadnabod, gwylder a cheinder dychymyg, yn cael eu hesgeuluso. Mae'r geiriau hyn eu hunain yn swnio'n anghynefin bellach. Nid rhyfedd felly mai unig ystyr emosiwn i'r werin a'r miloedd ydyw rhyw; mai unig ystyr "byw" ydyw yfed a godineb ac mai'r unig waredigaeth yw'r technolegwr holl- fedrus sy'n hofran uwchben y byd yn ei gerbyd.metel ac yn peri i bawb fod yn blant da yn bleserus ddiymdrech. D. TECWYN LLOYD. Ar wahân i nofelau alegorîol C. S. Lewis: Out of the Silent Plant a Voyage to Venus, sydd yn ailadrodd chwedl gardd yr Hesperides a gardd Eden a'r Cwymp ar gefndir cyfoes.