Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Omar Khayyâm a'i Gyfaddaswyr. I CYFAREDD yw'r unig air priodol i rai ohonom ei ddefnyddio mewn unrhyw atgof neu feddwl am Omar Khayyâm; neu efallai y dylid cywiro'r gosodiad ar unwaith trwy gyfeirio at "Rwbâ 'iyât" neu "benillion" enwog un o'i gyfaddaswyr amlycaf, Edward Fitzgerald, gan mai trwy ddrych pefriol y rhai hynny y cyfarfyddasom ag ef gyntaf, wedi hynny efallai yng nghyfieith- iad neu gyfaddasiad campus Syr John Morris Jones. Waeth i mi addef ar unwaith na wn i yn bersonol air o'r iaith Berseg na'r Arabeg, oddieithr efallai ambell air neu ym- amdrodd a lithrodd i mewn i'r Gymraeg neu'r Saesneg, ond erbyn hyn yr wyf wedi darllen aml gyfieithiad neu gyfaddasiad gan eraill o ychwaneg o benillion amrywiol Omar, cyn belled ag y gwyddys mai ei eiddo ef ydynt, ac y mae'r darlun o'r bardd a'r athronydd wedi syrthio o bosibl yn well o ryw ychydig i'w le. Gan mai trwy'r Saesneg hefyd, gwaetha'r modd, y dysgais i werthfawrogi llenyddiaeth gyntaf, oherwydd ynfydrwydd cyf- undrefn addysg a meddwl fy nyddiau cynnar, nad ydynt nepell yn ôl dros y gorwel, waeth i mi addef ymhellach mai gweithiau John Ruskin, Rwbaiyât" Fitzgerald yn y "Golden Treasury," heb anghofio efallai mesur a deunydd cynnil ac nid anhebyg ei deithi Rabbi ben Ezra Browning yn yr un gyfrol, a'm cyfar- eddodd i gyntaf at ryddiaith a barddoniaeth, heblaw fy ysgogi gobeithio i gyfeiriad ychydig ddyfaliad athronyddol. Wrth ddy- wedyd hyn nid ymffrostiaf gobeithio, oblegid cwbl sicr wyf na wneuthum eto ond prin gyffwrdd â golud ac ehangder byd a chelfyddyd Omar o Gorasan a Nîshâpŵr. Daw i'm cof yn wir, ar hyn o fater, gyfres o benillion neu ganig a ddanfonais rhyw dro i golofn farddol ddifyr Dewi Emrys gynt yn Y Cymro, a'r cerydd deifiol a roddes ef i mi am i mi ddehongli'r gair "cwpan" neu "gwpan gwin" yng ngwaith Omar yn rhy lythrennol (a dirwestol). Gwnaeth y cerydd hwnnw ar y pryd gryn les i mi. Mwy difyr, wedi hynny, a fu deall a gwybod am yr aml ddadl galed a fn rhwng Fitzgerald a'i gynorthwywr mwyaf yng