Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nghasgliad a dehongliad deunydd penillion Omar (yr Athro Cowell), ar yr un mater! Y gair mawr, sut bynnag, yw Cyfaredd." Felly y bu, fel y gwna, yn hanes a darllen y llawer anhyddysg, fe deimlwyd cyf- aredd, glendid, a grym iaith a rythm tra chynnil y "pennill" yn gyntaf oll, ac yna, mae'n debyg, ddieithrwch a gwefr anghyffred- in safbwynt a meddwl y bardd a'r athronydd Persiaidd ei hun, neu o leiaf yr hyn a geid ohono yng ngwaith ei gyfaddaswyr, Y modd a'r deunydd, ac yn y drefn yna i ddechrau, y mae o hyd, i mi yn fy narllen o'r pethau hyn. Yn ddios byddai traethiad beirniadol da, ar yr holl faes hwn yn Gymraeg yn gryn gaffaeliad, ond hyd y gwn nid oes peth o'r fath ar gael. Felly goddefer hyn o ysgrif rai sylwadau ar y pwnc. Rhannaf y peth yn ddwy ran: yn gyntaf y Cyfaddas- iadau (gan gynnwys y Cyfieithiadau ") mwyaf cyfarwydd, ac yn ail rhai dyfarniadau crefyddol, athronyddol, neu arall, y gellid eu cynnig ar ddeunydd barddoniaeth ac athroniaeth Omar Khayyam ei hun. II Un o'r ffenomenâu annisgwyl ym myd llenyddiaeth Saesneg y ganrif ddiwethaf oedd Edward Fitzgerald, neu Edward Purcell, o roddi iddo ei enw cyntaf cyn i'w dad ail-briodi. Ganed ef ar y dydd olaf o Fawrth, 1809, yr un flwyddyn ã Thennyson a Charles Darwin, ac eraill hyglod, a chyhoeddwyd ei "Rwbâ- iyât ym Mawrth, 1859, y flwyddyn y ganed Francis Thompson ac y cyhoeddwyd Origin of Species Darwin ynddi, a'r flwyddyn a welodd rym Diwygiad Hymphrey Jones. Bu farw yn 74 oed, ym Mehefin, 1883, rhyw wythnos cyn i un 9 gyfrolau ei gyfaill Tennyson, y Tiresias ymddangos, gyda'i chyflwyniad mydryddol, Old Fitz, Who reads your golden Easter lay, Than which I know no version done In English more divinely well, A planet equal to the Sun Which cast it, that large infidel Your Omar,