Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mewn cynnwys, er mwyn sicrhau ergyd gyferbyniol nerthol y bedwaredd linell sy'n llinell-glo i'r pennill-neu fel y dywedodd Fitzgerald ei hun y peth yn un o'i lythyrau (Arberry) bod ton neu bwyslais y pennill yn cael ei ddyrchafu hyd y drydedd linell ac yna ei thaflu neu'i thorri yn y bedwaredd. Ond y mae manyl- ion, mydr ac odl y pennill Persiaidd gwreiddiol yn llawer iawn mwy cymhleth ac amrywiol na hyn yna. Fel rheol nid yn nherfyn y llinell y mae'r odl yn y "rwbâ'i" Persiaidd; yn hytrach, yn rhywie tua'r pedwerydd sill yn ôl y ceir gair, neu'n fwy cywir grwp-eiriau, yr odl; nid yw gair olaf y llinell ond rhyw ôl-air (rcarword) i'r brif odl flaenorol honno. Y mae'r drydedd linell fel rheol yn ddi-odl. Y mae hyn yna yn ein gosod ar drywydd dau beth arall, yn un peth, patrwm mesur y pennill fel y newidiodd Fitzgerald (a J.M.J.) ef, a'r llall, cymhlethtod mesur Omar a'r "mesurau" Persiaidd yn gyffredinol. Gosod y llinell ddeg-sill Seisnig, llai ei maint na'r llinell Bersiaidd gyffredin, ynghyd â'r odl Seisnig gyffredin o un-sill, ar neu yn lle patrwm llawnach pennill Omar a wnaeth Fitzgerald, a'r un peth, mae'n debyg, wnaeth John Morris Jones, neu gymryd pennill Fitzgerald, ond fe welir ar unwaith y gellid disgwyl i'r peth fod yn fwy o brawf i'r Cymro pe ond yn unpeth am fod geiriau un-sill, beth bynnag a ddywed- ir am y llinell ddeg-sill, mor brin yn y Gymraeg. Y gwir yma efallai yw bod grym, cyfoeth, cyseinedd, a chymhlethtod-ac mewn un ystyr cynildeb y rwbâi Persiaidd yn debycach i ddull awdl y Gogynfeirdd Cymreig ond i ni ychwanegu at hwnnw y gynghanedd gymhleth, gain, lefn, a thlos a ddatblyg- wyd yn ddiweddarach gan y Cywyddwyr. Ond y pwynt cyfan cyntaf yma yw na raid gwneud gormod dirgelwch o fesur Rwbâiyât Fitzgera!d, 0 leiaf os addefwn mai cyfuniad, a chyfuniad hapus rhyfeddol o athrylith barddas Persia a Lloegr ydyw, beth bynnag a ddywedir am bennill J.M.J. (I barhau.) Ton Pentre. L. HAYDN Leẃis