Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Adolygiadau
HFRYDIAU ATHRONYDDOL, I960. Cyfrol xxiii. Gwasg Prifysgol Cymru.
58 tud. 4/6.
Mae'n debyg mai o barch i Lywydd yr adran athronyddol am y flwyddyn,
Mr. D. Jones Davies, y penderfynwyd cysegru y rhifyn hwn o'r Efrydiau
i Addysg, pwnc sydd mor amlwg yn ein dyddiau ni a'i effaith ar athroniaeth
cyn drymed â dylanwad athroniaeth arni hithau. Rhoddodd y Llywydd
y teitl llednais Rhai myfyrdodau ar athroniaeth addysg i'r anerchiad
sy'u agor y rhifyn. Geilw sylw cyson at yr agweddau "athrawiaethol sy'n
dylanwadu gymaint ar y defnydd a wneir o ½ganlyniadau ymchwil, pa mor
ddiduedd bynnag y bo'r canlyniadau eu hunain. Dengys fel y mae syniad-
aeth am addysg wedi chwarae nhwng y ddau -begwn o addysg er mwyn y
plentyn fel unigolyn ar y naill law ac er budd y gymdeithas y mae'n rhan
ohoni ar y llaw arall. Mae Democratiaeth igymdeithasol yn gydnaws â pharch
i'r unigolyn.
Agwedd ar yr un ddeuoliaeth a geir yn erthygl Mt. E. Glyn Lewis ar "Y
Ddau Draddodiad," y cyferbynnir ynddi safbwynt Lewis Edwards ac Emrys
ap Iwan, y naill yn glasurol a rhesymegol a'r llall yn rhamantaidd. Mae
gwead yr ymresymiad mor glos fel mai anhegwch â Mr. Lewis a fyddai ceisio
rhoi crynhodeb o'i eiriau ond da y gwnaeth wrth ein hatgoffa o'r angen i
gofio am y naill draddodiad fel y llall. Dichon er hynny y teimlodd an-
hawster wrth drafod syniad Emrys ap Iwan am gynnwys addysg o'i gym-
haru â chyfoeth y cyfeiriadau at syniadau Lewis Edwards ar yr un pwnc.
Yn wir 'gellir 'gofyn faint o bwys a ddylid ei roi ar gyngor fel hwn o
eiddo Emrys Darllenwch lyfrau'r Ellmyn er mwyn helaethu'ch gwybodaeth,
llyfrau'r Ffrancwyr er mwyn dysgu iawn-drefnu'ch gwybodaeth, llyfrau'r
Saeson er mwyn dysgu cymhwtyso'ch ,gwybodaeth a llyfrau'r hen Gymry er
mwyn gallu ohonoch gyfrannu'ch gwybodaeth mewn dull Cymreig i'ch cyd-
wladwyr." Y Gymraeg fel cytrwng-a'r cynnwys oddi tramor? Gall Emrys
ap Iwan ddod yn agos iawn at Lewis Edwards weithiau!
Fel y digwydd, mae astudiaeth yr Athro Eric Evans o hinsawdd meddwl
Cymru o 1880 i 1896, Datblygiad Syniadau Addysgiadol yng Nghymru
yn olrhain rhai o'r tueddiadau yn y cyfnod sy'n dilyn. Diddorol iawn yw
troi'r chwyddwydr ar feddwl cyfnod byr fel hyn, sydd ar drothwy y dat-
blygiadau mawr o 1889 ymlaen.
Edrych ymlaen y mae'r ddwy erthyrgl sy'n aros; y Dr. T. I. Davies ar
Egwyddorion Addysg Wyddonol a Mr. W. R. Jones ar Gyfraniad
Seicoleg i Addysg yng N'ghymru." Y ,gyn.taf yw'r unig erthygl sy'n mynd
i mewn at y dosbarth gan drafod dulliau dysgu pwnc sydd yn gofyn ail
feddwl sut i'w ddysgu. Safbwynt seicolegydd arbrofol yw eiddo Mr. W. R.
Jones a chyfeiria ef at rai o ganlyniadau Profion Ymagwedd a roddwyd i
blant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae i rai o'r canlyniadau oblyg-
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.