Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iadau pwysig i'r sawl sy'n dysgu Cymraeg i blant di-Gymraeg, pe na bai ond yr angen i drefnu'r defnyddiau a'r cynnwys yn amgenach nag y trefn- wyd hyd yma. A mater o ymchwil .gofalus yn ôl dulliau ieitheg ddiweddar yw hynny. Yma yn ôl pob tebyg y gorwedd pethau mwyaf diddorol addysg yn y dyfodol. Yma hefyd efallai y gwelir anfantais y safbwynt athronyddol a hanesyddol bur "fel ei datguddiwyd yn yr Efrydiau hyn. Y pethau pwysicaf a ddigwyddodd yn ein hoes ni yw, nid ad-drefnu 1944 nac adroddiad Hadow o'i flaen, ond y gweddnewid ar ddulliau dysgu a welir, e.e., mewn ysgol fabanod ar ei gorau. Tebyg bod yr un chwyldro ar droed mewn astudiaeth o ddulliau dysgu mathemateg i enwi ond un pwnc. Y mae mwy o edrych ym- laen a llai o edrych yn ôl nag a awgrymir gan y gyfrol hon,-ac i'r addysgwr y mae mwy i'w ddisgwyl oddi ar seicoleg a chymdeithaseg nag oddi ar hanes nag athroniaeth. Dioloh er hynny am gyfres o erthyglau sy'n ddiddorol ac yn symbyliad i edrych ar ein problemau o newydd. J. HENRY JONES. A berystwyth. MABON (William Abraham, 1842—1922). A Study in Trade Union Lcader- ship. Gan E. W. Evans. Gwasg Prifysgol Cytnru; 115 td. Pris 10/6. Yn ei ragair gwerthfawr i'r llyfr hwn gesyd yr Athro Beacham ei fys ar wir bwysigrwydd Mabon, y mawr wron Llafur a fynnai arwain gweithwyr Cymru nid yn unig i well amgylchiadau byw, ond i íyw yn well. Ei ddawn i arwain a'i huodledd oedd ei gryfder yn hytrach na'r gallu i ddatrys problemau astrus trefniadaeth Undebau Llafur. Ei wendid mwyaf oedd iddo fethu â symud ,gyda'i oes. Yn ei ragair ei hun pwysleisia'r awdur cyn lleied a glywir yn y Meysydd Glo heddiw am Mabon. Rhaid cofio mor wahanol yw'r ardaloedd hyn heddiw i'r hyn oeddynt yn ei amser ef, ac eto, onid tuedd ddigon cyffredin ymhob man ac mewn llawer cylch o fywyd, yw anghofio'r gŵr mawr gan y genhedlaeth a tgododd megis yn ei gysgod. Ceir gwell ,golw,g arno ar ôl cymeryd cam neu ddau oddi wrtho, pan fydd yn rhaid chwilio i mewn i wir ffeithiau ei fywyd a'i waith yn hytrach na dibynnu ar argraffiadau cyf- oeswyr. Dyna a gawn yn y llyfr hwn. Cyfrol ydyw sy'n adlewyrchu'r diddordeb mawr a welwn ar bob llaw, yn Lloegr a Chymru, yng ngwyr mawr oes Victoria. Gormod ydoedd disgwyl astudiaeth ysgolheigaidd, am- hersonol, fel y cawn yma, lawer cyn hyn, yn enwedig am un y bu cymaint o wahaniaeth barn a dadlau yn ei ½gylch. Er i'r awdur roi i ni hynny o ffeithiau a fedrodd gasglu am gefndir bore oes Mabon, yn ogystal a'r manylion am ei yrfa, gan ddangos yn glir .gymaint ei ddyled i'r capel a'r Ysgol Sul a'r Eisteddfod, eto nid yw'n colli golwg ar is-deitl ei lyfr am foment. Astudiaeth o Mabon fel arweinydd Undebau Llafur a geir yma. Cawn felly ymdriniaeth fanwl ar y sliding scale," ac