Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yddodd poblogaeth ddi-Gymraeg y De trwy ymsefydliad yn y Cymoedd o wŷr a fagwyd mewn traddodiad gwahanol iawn i'r traddodiad Cymraeg. Yn yr un cyfnod daeth addysg newydd i Gymru hefyd o'r tu allan, a syniadau newydd, estron, am hawliau dyn ac am ryfel rhwng dosbarth a dosbarth. Cyfnewidiadau oeddynt a gymerodd le ar gymaint .graddfa a chyda'T fath gyflymder nes ei gwneud yn anodd, yn enwedig i'r to a oedd yn heneiddio, megis Maibon, i sylweddoli'n llawn eu harwyddocâd. Yr oedd Mabon yn ffrwyth datblygiad naturiol y traddodiad Cymraeg. Ni lwyddodd i ennill yr arweinyddiaeth ar y gymysgfa newydd o boblogaeth y Dc. Yn hyn o !beth yr oedd yn igrynodeb o hanes Cymru yn y blynyddoedd hyn. Ni sylwodd awdur y llyfr ar yr holl oblygiadau hyn. Ond ar fanylion gyrfa Mabon a'i bolisïau mae'r driniaeth yn deg a gofalus, a'r llyfr yn un gwerthfawr. Hyderwn y caiff llawer o Gymry heddiw, wrth fyfyrio ar Ie a gwaitli yr Undebau Llafur yn ein dyddiau ni, oleuni ac ysbrydiaeth wrth ddarllen am ymdrechion Mabon. Hwyrach mai ei gyfraniad mwyaf i fywyd Cymru oedd ei waith yn casglu'r glowyr di-fater i undeb â'i gilydd. Wrth eu dysgu mai mewn Undeb yr oedd eu nerth, fe'i gwnaeth hi'n haws i syniadau newydd, a dieithr iddo ef, ledaenu yng Nghymru. Da yw cofio yn awr iddo ef ei hun edrych ar yr Undeb fel tarian y gweithiwr ac nid fel cleddyf. Abcrystwyth. Yng Nghywydd y Llaeth Enwyn, td. 92, 11. I4, darllener Lliw rhos neu geirios a gâi. Yn td. 93, 11. 1 Llai ysig oedd y llesg wr. CYWIRIAD. MARIAN HENRY JONES. H. P. ONIS