Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Gwyrthiau'r Efengylau.* YN ei Ragair dywed yr awdur mai'r gwahoddiad i arwain trafodaeth ar y Gwyrthiau yn Ysgol Haf yr Ysgol Sul yn Aber- ystwyth yn 1954, a hynny dan nawdd y Pwyllgor Cydenwadol, a'i symbylodd i sgrifennu ei lyfr. Os felly, paham y gadawyd y pwnc gan y Pwyllgor hwnnw i orffwys yno, yn lIe trefnu i'w wneud yn faes llafur i'r holl enwadau fel ei gilydd? Gan fod y pwnc ym marn y Pwyllgor Cydenwadol yn un pwysig, ac wedi dewis un cymwys i fraenaru'r tir, dylesid fod wedi annog Mr. Evans i baratoi dan ei nawdd lyfr i'w ddefnydd- io a'i astudio gan ein Hysgolion Sul. Buasai hynny'n gam ymlaen, a mawr alw amdano gan ieuenctid ein heglwysi sy'n ymdeimlo ag anhawster y pwnc. Y mae ôl cryn lafur ac ymchwil yn y llyfr uchod, a haedda rywbeth mwy na chanmol ystrydebol. Fy nghŵyn bennaf yn el erbyn yw ei fod yn rhoi gormod o help i bregethwyr diog Clywais un yn ddiweddar yn gwneud defnydd go helaeth, a da o ran hynny, o un o benodau'r gyfrol. Aed pawb ati i'r felin i falu ei vd ei hun. Fe dalai i bawb ddarllen rhagymadrodd y llyfr yn ofalus cyn mynd at y gweddill o'r penodau sy'n dilyn. Pennod XI ar iachau'r mud a'r byddar a ddarllenais yn gyntaf, ac ystyriaf honno ar ôl darllen y gweddill o'r penodau, yr orau yn y llyfr o safbwynt ymdriniaeth deg a di-wast. Am fy mod yn barnu mai yn ei ragymadrodd y ceir prif gyfraniad yr awdur ar bwnc astrus y gwyrthiau, tybiais fod traethu ar rai ystyriacthau ynglŷn à hwynt yn bwysicach na bodloni ar adolygiad arwynebol a ffurfiol. 1. Dwywaith y ceir y gair "gwyrthiau (Marc 6, 5; 9, 39), a theirgwaith y gair miracle (Mark 6, 52; 9, 39; Lk. 23, 8) yng Gwvrthiau Galilca, gan Trebor Lloyd Evans, Treforus. Gwasg Aber- ystwyth, xxxi & 128. 1060. Pris 9/6. CYFROL (XV. RHIF 407. HYDREF, 1960