Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn un o Sasiynau'r Bala ar drothwy yr Ordeiniad cyntaf gofyn- nodd Ebeneser Morris, Twrgwyn, i Thomas Charles pa un oedd bwysicaf ai pregethu'r Efengyl neu weinyddu'r ordinhadau ? Ateb Charles oedd mai pregethu oedd bwysicaf. Dyna bender- fynu ar ordeinio ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd (fel yr enwid hwy y dyddiau hynny). Yr oedd ateb Thomas Charles yn seil- iedig ar eiriau'r Gwaredwr,­" Ewch a phregethwch gan eu bedyddio pregethu gyntaf, gweinyddiad yr Ordinhad yn dilyn. Yng ngoleuni geiriau Crist ai iawn yw anerchiad byr wrth Fwrdd y Cymun ? Onid pregeth y Gair yn gyntaf a phreg- eth y gweinyddu a'r cyfranogi wedyn? Y mae'r ddwy bregeth yn bwysig, ond rhaid gyda gwaith y Deyrnas yn arbennig roddi y pethau blaenaf ynghyntaf." Pregethu yw gwaith pwysicaf yr Eglwys, ac ynghanol atyniadau ein hoes rhaid dod yn ôl i ail bwysleisio hyn. Nid oherwydd atyniadau'r "byd" ond yn wyneb atyniadau crefyddol, nid y pictiwrs a'r teledu a phethau cyffelyb, ond y gweithgareddau diweddar sydd wedi dod i mewn, a'r ffurfiau ar addoli sydd yn ara deg wthio cenad- wri'r Efengyl drwy enau'r pregethwr i gongl. Onid oedd defodaeth a seremoni wedi mynd yn syrffed ar bobl gyffredin Palesteina yn nyddiau ein Harglwydd? Yr oedd "gweddïo awyr agored Iesu Grist yn fanna i'w henaid. Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn yn ei ddull a'i ddawn a'i ddeunydd. Mewn ystyr ddynol yr oedd Ef yn olyniaeth y proffwydi. Yr oedd Crist yn Archoffeiriad Efe yw'r Archoffeiriad ter- fynol yn ei Berson a'i Waith Gorffenedig. Nid oes angen allor bellach, Efe a'i rhoddes ei Hun." Bwrdd y Cymun sydd eisiau yn awr yn awgrymu Duw yng Nghrist yn rhoddi gwledd, a gwaith y pregethwr yn oedfa'r Cymun yw pregethu, galw pobl i'r wledd? Onid felly y gwnâi'r Apostolion? Onid preg- ethu dydd y Pentecost a agorodd lifddorau y bendithion tra- gwyddol i'r miloedd? Gwir eu bod yn "torri bara o dy i dy" ond fe'i galwyd i waith pwysicach, sef torri Bara y Bywyd i drigolion Jerwsalem. Dyna'r Olyniaeth Apostolaidd." Y Pregethu Cymru.