Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crefydd Cymru a'i Beirdd 1900-195 5.* Xi fwriadaf dafoli'r beirdd yn y Ddarlith, gan eu dosbarthu yn ôl teilyngdod llenyddol. Hynny yw, nid beirniadaeth lenydd- ol a gynigiaf. Eithr credaf fod y rhan fwyaf o'r beirdd y cyfeiriaf at en gwaith wedi ennill eu lIe. Eu pwysigrwydd o'm safbwynt i fydd bod eu cynhyrchion barddonol yn taflu golau ar ddyn a chymdeithas yng Nghymru. Ceisir delio yn fras â rhyw bum cyfnod yn hanes Barddon- iaeth a Chrefydd Cymru rhwng dechrau a chanol y ganrif hon. Wedi rhagair cyffredinol ar berthynas crefydd a barddoniaeth, ystyriwn (i) "lonyddwch digyffro" dechrau'r ganrif hyd tua'r flwyddyn 1914-cyfnod yr oedd beirdd fel Alafon, Eifion Wyn a T. Gwyn Jones yn nyddu eu cân gan droi yn ôl i'r g'orffennol, ac ymdawelu ym myd y deunydd cynnar. Yna (ii) down at gyfnod cythryblus 191 5 — 25, cyfnod gwrthryfel y Beirdd"- sef adwaith y Rhyfel Byd cyntaf a'i ganlyniadau ar feirdd fel T. H. Parry-Williams, Cynan, Prosser Rhys ac eraill. Blyn- yddoedd "y dadrithiad" a ddaw yn nesaf, (iii) 1926-39, cyfnod colli'r delfrydau a phrofi siom, oherwydd yn lIe Cyfiawnder caed Cweryla ac yn lle gwell telerau i'r gweithiwr, Diweithdra. Dyma'r adeg y canai T. E. Nicholas, y Comiwnydd; Gwenallt Jones, y Chwyldroadwr; T. Gwynn Jones, y sinig; Gwilym R. Jones, yr Heddychwr, ac eraill. Yna fe gawn Broffwyd a Phrydydd mewn cyfyngder newydd ym mlynyddoedd yr Ail Ryfel Byd (iv). Chwilio y mae'r beirdd yn awr am weledig- aeth, od oes un, a ddwg ryddid i ddyn, cyfiawnder i gymdeithas a heddwch i genedl. Gellid teitlo'r cyfnod olaf Yr Afael Sicraf Fry (v). Yn ystod y deng, neu'r pymtheng mlynedd diwethaf fe ddaeth y bardd yn broffwyd. Dyma gyfnod Saunders Lewis, Gwenallt, Peate, Waldo ac eraill. Gwelsant hwy mai yn Nuw y mae'r allwedd i'r bywyd ehangach ac nad oes obaith cyfranogi ym mywyd Duw ond drwy Grist a thrwy ei Eglwys. Detholion o Ddarlith Davies, a draddodwyd yn y Gymanfa uytîreamoi yn Seion, Wrecsam, Mehefin, 1958, gan y diweddar Barch. D. James Jones, Treforus.