Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Omar Khayyam a'i Gyfaddaswyr (n). Ni wn pa faint a ymddiddorodd Syr John Morris Jones mewn crefydd ac athroniaeth, ond ni allaf yn bersonol lai na hoffi'r dehongliad a rydd ef, ar sail yr hyn a ddarllenasai o waith Omar ei hun yn ddiau, ac fel y tystia o ran hynny (" Nodiadau 1907 ­tud. 183-192). Rhydd yr awgrym hwn i ddechrau: "Amheu- aeth ac anobaith a gwrthryfel Omar a geir gan Fitzgerald, ond y mae ffydd, gobaith, cariad, yn llawn mor amlwg yn ei benillion ef ei hun." At hyn pwysleisia J. M. J. ddau beth, ar sail dethol yn briodol, hyd y gall neb wneud hynny, o waith Omar ei hun-yn gyntaf, ei ymgais at gredu," er gwaethaf "drwg y byd," ac yn ail, protest O'mar yn erbyn pob ffug, celwydd, a thwyll crefyddol." Ym mhob Crefydd a Chredu y mae mathau lawer o amhett- aeth, a mwy efallai nag a addefwn yn gyffredin. Ni ellir "ffetish" o "gredo" un amser heb gau'r drws yn rhywle yn erbyn pob meddwl newydd posibl. Heblaw hyn, y mae'r hen g-ategorîau ­sgeptig, agnostig, ac atheist, a llu eraill tebyg—hwythau yn arhosol gennym, ac nid yr un ydynt. Gŵr a gwawl cariad yn ei galon ef Sgrifennwyd enw hwnnw'n Llyfr y Cariad, Ac ni phetrusa am Uffern na Nef." Tydi sy'n dal y drych i Ti dy hun- Tydi dy Hun a welir ac a weli." "Ac nid oes sylwedd ond Tydi." Yf win o gwpan y Tragywydd Ffenestr, Ac ymryddhâ o ofal y ddau fyd." Gwreichionen o'm trallodion ydyw Uffern, Ac ennyd o'm .hesmwythtra ydyw'r Nef." Sut mae iawn-ddeall y llinell hon, "Ac ymryddhâ o ofal y ddau fyd"? Fe ellid ei dehongli fel atheistiaeth ronc, neu fel ymrydd- had o boh htinan-Ofn a hunan-Draserch, ac os yr ail a gymerwn