Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

defosiwn a ddengys ei lwyr gred yn Nuw. Ond a allai hyn fod ym meddwl yr un person? Pawb a'i farn, o blaid neu yn erbyn, yw hi felly. Hyd y gallaf fi weled, rhai o gymwynasau mawr Omar ei hun i ni yw—yr ymchwil am Ddeistiaeth dda 'a chyt- bwys, onid Theistiaeth o ran hefyd, y fflangell ar dwyll a rhith, yn enwedig mewn Crefydd, heblaw'r meddwl beirniadus agored, ac wrth reswm y peth di-angof hwnnw a ellir ei alw yn Farddoniaeth fawr Epigramaidd," peth sydd yn gwbl eglur yn ei benillion." Y mae'n rhesymol i ddyn gredu, gyda llaw, mai oddi wrth eu prififeistr Omar y dysgodd Fitzgerald (o Gaergrawnt) a J. M. J. (o Rydychen) gre<fft ddisglair y cyferbyniad," ond cyn pen ychydig iawn, fel y gwelir oddi wrth eu penillion neu'u cyfaddasiadau, yr oeddent hwythau mor ddisglair â'u meistr yn y mater hwn. Yn ddiau, etifeddu'r rwbâ'i neu'r pennill o'i draddodiad llenyddol ei hun a wnaeth Omar, ond fel Dafydd ap Gwilym yng Nghymru, nad oedd ond ychydig yn ddiwedd- araoh o ran amser nag ef, anadlodd yntau i waith ei ragflaen- wyr anadliad arall 0 Fywyd." Gadawodd ef hefyd ar ei ôl, yn gragen brydferth ar fariau y byd—hyd oni ddaeth Edward Fitzgerald ac eraill heibio yn eu tro ac anadlu drachefn y peth byw i'r peth prydferth hwn, er newid llawer iawn arno yr un pryd. Eglur o leiaf yw i'r Sais o Bredfield, Suffolk, a'r Cymro 0 Fôn, gael yn Omar a'i "bennill" rywbeth o gyfryw-feddwl— faint bynnag eu cyfaddasiad neu'u cwtogiad ohono. Wedi'r cyfan, abwyd i ddal ein sylw, y ,mwyafrif ohonom, oedd y "Cyf- addasu hwn, oblegid oni'bai amdano nid yw yn debyg y buasem yn gwybod, lu mawr o'honom, fawr ddim am Omar, nac wedi dyfalu erioed ddim yn ei gylch! Ni wybu Fitzgerald ond ychydig iawn am glod pamffled ceiniog 1859, ond edrydd Batson un hanesyn swynol amdano ddeng mlynedd wedi ei gladdu. Mae'n debyg fod ar fedd Omar ym mynwent Hira, ger y mur, bren rhosyn o fath yr un y canasai ef ei hun gymaint amdano, neu o fentro trosiad moel o ddwy linell Fitzgerald (18): Weithiau mi dybiaf na cHieir yn goch trwy'r byd Un Rhosyn ond Me bu rhyw Gesar yn ei wae a'i gryd."