Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sut bynnag, wedi marw Fitzgerald cludodd rhai o'i edmyg- wyr ychydig o hadau neu ogfeini'r pren rhosyn hwnnw yn Hira i Erddi Kew yn Llundain yno i'w meithryn yn blanhigion ieuainc ir, ac yn Hydref, 1893, plannwyd dwy ohonynt ar fedd y bardd o Suffolk yntau. Diau bod amryw farnau am beth o'r fath, ond o leiaf dengys y cyswllt a all fod rhwng y Dwyrain pell cyfriniol a'r Gorllewin nad yw mor gwbl bragmatig ag yr honna fod weithiau. O ddarlun a welais deallaf mai croes fawr o wenithfaen sydd ar fedd Syr John Morris Jones, ond gallai Cymru hefyd blannu ar ei feddrod yntau, y marchog gwalltddu a'r wyneb Celtaidd anghyffredin o hardd a mwyn, blanhigyn o'r un "rhosyn glwys" (xxii) pe ond i geisio lliniaru, beth bynnag am ddileu, trymder tywyll y llinell-glo 'honno (xx): Y rhos a wywodd ni flodeua mwy!" Ton Pcntre, Rhondda. L. HAYDN LEWIS.