Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ac iddo ef y Beibl oedd yr awdurdod terfynol ar bob pwynt. Felly y mae gennym 0011 fel Ymneilltwyr hawl iddo. O gofio mai ei sêl dros ei gyd- Gymry a'i harweiniodd i'r safbwynt hwn hwyrach y gall aelodau'r Eglwys Esgobol sydd hefyd yn Gymry Cymraeg, faddau iddo erbyn hyn, a chyd- nabod ei hawl i'w gyfrif yn ferthyr. Ac os yw ei eirfa yn ein taro ni braidd yn chwithig, a'i ysbryd .fel pe bai'n anghristionogol ei naws, rhaid cofio mai defnyddio idiom ei oes ei hun ydoedd, a'i fod, fel ei gyfoeswyr yn gyffredinol, yn rhoi cymaint o bwys ar broffwydi'r Hen Destament ag ar Apostolion y Testament Newydd. Mwy na dim efallai, yr argraff a adewir arnom ar ôl darllen y pamffledi hyn yw ei ymdeimlad o frys,-nid yn gymaint am fod ei fywyd ei hun mewn perygl, er y sylweddolai hynny,- ond am fod dynion yn marw yng Nghymru heb gael cyfle i glywed y gwirionedd am yr efengyl mewn iaith a ddeallent, tra'r oedd pŵerau'r Babaeth yn aiLgrynhoi ar y Cyfandir ac ar waith yng Nghymru hefyd. Pan fo dyn ar frys, ac hefyd ar dân gan argyhoeddiad, nid yw yn pwyso a mesur ei eiriau. Rhaid canmol gwaith yr argraffwyr yn y llyfr hwn. Rhoddwyd inni lyfr y mae'n bleser ei feddiannu. Marion H. Jones. ELIZABETH DAVIES, 1789—1860. Gan Meirion Jones. Cyfres (ddwy. ieithog) Dathlu, Gwasg y Brifysgol. 8g td. Pris 3/ Gellid sgrifennu sawl math o lyfr ar y wraig ryfedd hon a'i gyrfa ramant- us, nofel, astudiaefh seicolegol, traethawd hanesyddol, yn ogystal a bywgraff- iad holl-igynhwysol. Diddorol yn wir fyddai cael dadansoddiad manwl o'i phersonoliaeth ac o'r cymhellion mewnol a'i gyrrodd o'i chartref yn y Bala ar draws yr holl fyd gan ;gyrraedd amlygrwydd fel draenen yn ystlys Florence Nightingale yn y Crimea. Mae'n amlwg iddi deimlo apêl Methodistiaeth ond nid i gymaint graddau nes marw i'r hen bethau, y ddawns a'r actio. Hwyrach mai rhag wynebu ar y rhwyg hwn a ddinistriai ei thawelwch mewnol yr ymroddodd i fywyd llawn cyffro ac antur. Diddorol hefyd fyddai gwybod faint o bwys i roi ar ei bywgraffiad." Atgofion hen wraig ydynt, a honno'n hen wraig gyfarwydd iawn ag actio. Anodd peidio a theimlo i'r storïau am ei gallu i ddal lladron, er enghraifft, fod yn ffrwyth ei diddordeb yn y ddrama. Eithr amhriodol iawn a fyddai disgwyl unrhyw ymdriniaeth o'r fath yn y llyfr hwn, a fwriadwyd ar gyfer plant rhwng 11 a 13 oed. Yn ei hanturiaethau y mae ei apêl i blant, ac i blant Cymru yn arbennig, yn y ffaith nad Saeson yn unig a amlygodd eu hunain fel gweinyddesau yn y Crimea. Gwnaeth yr awdur yn fawr o'i gyfle, ac eto llwyddodd i osgoi rhoi'r ar,graff i Twm Sion Cati mewn dillad merch droi yn sydyn yn angyles Ralaclava. 'R oedd yn ymwybodol iawn o'r priodoldeb o gysylltu Beti Cadwaladr â'i chefndir Cymreig. Yn wir ar y tudalennau cyntaf ymddang- osai ei ymdrechion yn rhy lafurus nes bod perygl i'r darUennydd ifanc gael ei ddyrysu ½gan y cyfeiriadau at deuluoedd Erw Dinmael, y Fedw Arian a