Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TEAETHODYDD PIWRITANIAETH GYNHENID YN yr ymgyrch ddiweddar o blaid agor tafarnau Cymru ar y Sul, dadleuid yn groch gan y cefnogwyr mai unig sail y gwrthwynebiad i'r peth ydoedd culni Piwritanaidd neu Biwritaniaeth gul Ym- neilltuol fel pe baent wedi taro ar arwydd o ryw wendid meddwl truenus. Ac yn wir un o ragdybiau mwyaf cyffredin y dydd yw'r syniad poblogaidd am Biwritaniaeth. Cymerir yn ganiataol yn y wasg ac ar ymgom mai rhyw hunllef ydyw a ddisgyrmodd ar Gymru gyda'r Diwygiad Methodistaidd ddau gan mlynedd yn ôl, a pheth efallai gyda'r Hen Ymneilltuwyr ganrif cyn hynny. Y mae'n hollol wir bod dylanwad y Diwygiad hwnnw ar foes a meddwl Cymru yn eang a dwfn. Rhaid addef y dysgai'r Biwritan- iaeth eithafol fod pob pleser yn bechod — the primrose path that leads to the everlasting bonfìre," chwedl Shakespeare. Ond dyna yw gwir Biwritaniaeth-purdeb addoliad, purdeb buchedd, purdeb hunan-ddisgyblaeth (sef dirwest yn yr ystyr briodol .i'r gair) a chredu mewn safonau anghyfnewidiol a cheisio eu cyrraedd. Hedd- iw gellid tybio nad oes safonau'n bod. Ceisir dangos yn y sylwadau hyn bod y peth, yr agwedd meddwl hwn yn bod erioed. Fel mudiad a ysgubodd gyda grym parhaol trwy Gymru ddwy ganrif yn ôl, ac a gyfeiriodd gwrs ei bywyd o'r amser hwnnw ym- laen, yr oedd yn newydd. Ond nid oedd yn newydd yn Lloegr, na'r Alban, nac ar y Cyfandir. Er pan osodwyd ei sylfeini gan Calvin yn Geneva ddau can mlynedd cyn y Diwygiad Methodist- aidd, yr oedd John Knox wedi gwneuthur y gyfundrefn yn Eglwys Wladol yn Scotland, a'r Saeson wedi llwyddo i wneuthur yr un peth yn Lloegr (a Chymru) am gyfnod. Ond yn wir, nid oedd Piwritaniaeth fel cred yn hollol ddistaw yng Nghymru chwaith cyn y ddeunawfed ganrif. Os na chyffyrdd- asai â chyfangorff y genedl, cafodd fynegiant huawdl gan rai o'n llenorion, fel y tystiai llyfrau fel "Y Bardd Cwsg," Drych y Cyfrol CXVII. RHIF 502. Ionawr, 1962.