Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

farnau poblogaidd. Felly, peidiwn a rhoddi gormod o sylw i'r bobl ddisafon a glywir 'heddiw'n dilorni safonau teilwng, ac a alwant egwyddor yn gulni, a sefyll drosti yn Biwritaniaeth. Addolwyr un o Eilunod y Stryd ydynt. H. PARRY JONES. Llanrwst. DIWYGIAD SANKEY A MOODY A CHYMRU Y DDAU ddylanwad pwysig ar grefydd yn ystod chwarter olaf y ganrif ddiwethaf, oedd y Ddiwinyddiaeth Newydd," a'r diwygiad a ysbrydolwyd gan weithgarwch y ddau efengylydd Americanaidd, Dwight L. Moody, ac Ira D. Sankey. Bu pregethau'r naill a chaneuon y llall yn foddion i ddeffro ynni crefyddol a debygwyd i ddiwygiad Wesley a Whitfield. Er mai yng nghanolfannau diwyd- iannol Lloegr y bu'r ddau'n gweithio yn bennaf, ym misoedd Gor- ffennnaf ac Awst, 1875, ymwelodd Moody â rhannau o Ogledd Cymru, a bu 'n annerch cyfarfodydd yn y Bala, Blaenau Ffestiniog, a Wrecsam, lle'r oedd "deng mil o bobl wedi ymgynull ynghyd."1 Ym mis Ebrill, 1879, daeth Sankey i Fae Caswel, ger Abertawe, i atgyfnerthu ei iechyd, a threuliodd ddau fis yno. Ond ym misoedd Awst a Medi, 1882, bu'r ddau efengylydd yn ymweld ag Abertawe, Caerdydd, a Chasnewydd. Er mai prin 'ar y cyfan fu ymweliadau'r ddau â Chymru, teiml- wyd eu dylanwad yn drwm ar rannau o'r wlad, a rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i'w gweithrediadau ym mhapurau a chylchgron- au'r cyfnod. Yng Nghymanfa Annibynwyr Morgannwg a gynhal- iwyd yng Ngharmel, Gwauncaegurwen, ym Mehefih, 1874, cynig- iwyd gan y Parch. R. Evans: "Fod y gynhadledd hon yn dymuno galw ystyriaeth ddwys yr eglwysi yn y dywysogaeth at y diwygiad crefyddol a'r cyffroad grymus sydd wedi cymeryd 11e mewn rhannau o'r deyrnas hon."2 Wrth sôn am waith yr efengylwyr, cyfeiriodd golygydd Y Tyst" at y diwygiad fel yr un pwysicaf a gymerodd le yn y deyrnas hon yn y ganrif bresennol, os nad yn wir, y symudiad crefyddol pwysicaf er dyddiau y Diwygiad Protestanaidd."3 Nid yw hynny'n