Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd ar eu holau, a thybia llawer ohonom, yn gam neu'n gymwys, mai i'r llwyfan ac nid i'r pulpud y gweddai doniau syfrdanol ambell un o'r hen gewri. Rhywfodd, nid yr un fu mawredd John Elias a mawredd oesol William Morgan, a Morgan Llwyd, a Phantycelyn a Thomas Charles; ac erys agendor hefyd rhwng pregethu Daniel Rowlands a'i olynwyr yng Nghymru ganrif ar ei ôl. Os amheua neb na fu dirywiad trist yn hyn o beth darllener hanes perfformans S. T. Jones yn Sasiwn Aberdâr ganol haf, 1900. Er gwaethaf closio at ystrydeb rhaid datgan fod y cyffro glân diledryw yn rhan han- fodol o'r neges a draddodir; hebddi, heb greadigaeth a gweledig- aeth, gwagedd yw y cwbl. Cyn ceisio trin a thrafod, yn ddiymhongar a gwylaidd mi obeith- iaf, y berw cudd rhyfeddol hwn, rhaid imi ddatgan nad yr un ysbrydoliaeth fydd gennyf dan sylw a'r hyn a symbylodd i bregethu un gweinidog yng Ngorllewin Canol yr Unol Daleithiau. Pregeth- ai'n rymus odiaeth un bore Sul, ond yn ei gynulleidfa y bore hwnnw yr oedd, yn ddiarwybod iddo, Henry Ward Beecher. 'R oedd y gwr adnabyddus yn digwydd bod yn y cyffiniau ar y pryd a throdd i mewn i'r capel diarffordd i glywed y bregeth. Ond fel yr âi'r pregethwr ymlaen sylwodd Henry Ward Beecher fod yr hyn a dra- ddodid yn dra chyfarwydd iddo, a chyn bo hir fe ganfu mai pregeth gyhoeddedig o'i eiddo ef ydoedd, air am air. Ar derfyn yr oedfa teimlodd yr ymwelydd mai priodol oedd iddo ddatgan pwy ydoedd. Wedi ysgwyd llaw a diolch, dywedodd "I think you should know that I am Henry Ward Beecher." I bob golwg ni chynhyrfwyd y pregethwr bach gan y wybodaeth dyngedfennol hon, a dywedodd yn groyw gan edrydh ym myw llygad y pregethwr mawr, Sir I am very glad to meet you. I am never ashamed to preach any of your sermons." Dichon fod cryn bosibiliadau mewn trafodaeth ar y moddion arbennig hynny i danio doniau, ond nid dyma'r lle. I ddychwelyd at y pwnc; perthnasol i'm pwrpas yw datganiad yr Apostol Paul o'i brofiad ysgubol ef­" Anghenraid a osodwyd arnaf, a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl." Yr anghenraid ys- brydoledig hwnnw oedd ei fraint ef, a gwnaeth ddefnydd gwiw ohono, fel sy'n hysbys i bob un ohonom. Cafodd lliaws eraill ar ei a