Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFIEITHU LLAWER ymgais a wnaed ac a wneir i geisio profi fod cyfieithu'n bosibl, hynny yw, y gellir trosi gair o un iaith i iaith arall a chadw awyrgylch y gwreiddiol heb ar yr un pryd ei lychwino,-cwestiwn dyrys ac anodd ei ateb. Fel un sydd wedi treulio cyfnod maith gydag efrydwyr yn paratoi am y weinidogaeth, bûm yn ymwybodol laweroedd o weithiau o'r anhawster neu'n wir yr amhosibilrwydd i wneud hyn. Ar y llaw arall, cydnabyddir fod y Beibl yn llyfr eithriadol, oherwydd y rhwyddineb a geir o'i droi i unrhyw iaith heb golli dim o'i ystyr na'i awyrgylch. Yng Nghymraeg y dysgais i y Beibl, a rhaid imi gyfaddef mai fel brawddegau ac adnodau Cymreig y daw ei neges gliriaf i'm meddwl hyd heddiw, er imi dreulio llawer mwy o'm hamser i'w astudio yn yr iaith Saesneg neu yn yr iaith Roeg. Cyfyd y cwestiwn ar unwaith, paham y dylai hyn fod? Cofiaf y diweddar Athro T. A. Levi yn dadlau'n frwd dros hawl y Cymro uniaith i gyflwyno ei dystiolaeth mewn llys barn yn ei fam-iaith, a byddai disgwyl iddo gyfieithu yn annheg ac yn ang- hyfiawn. Nid wyf, er hynny, mor glir yn fy meddwl beth oedd ei resymau am ei safbwynt. Yr unig beth y carwn ei wneud yn yr ysgrif hon yw awgrymu, os medraf, rai o'r rhesymau dros gredu fod iaith, fel ardal mebyd, yn gadael rhyw effaith ar feddwl ac ysbryd dyn na ellir ei ddileu. Mae yna nodyn cartrefol mewn mynegiant pan ddefnyddir y fam- iaith fel cyfrwng trosglwyddo â'r genau neu'r ysgrifbin, ac y mae a fynno awyrgylch rhywbeth â rhwyddineb y mynegiant hwn. Pan fetha dyn fynegi ei feddwl neu ei deimlad, metha hefyd gynhyrchu awyrgylch. Tebyg yw i'r mudan yn methu seinio cân. Mae fel ceffyl mewn cors yn suddo'n ddyfnach, ddyfnach fel y cais ym- ryddhau, ac y mae rhyw ddistawrwydd arswydus yn nodweddiadol o'r suddo hwn, mewn gair, mae yn rhyw fath o ragarweiniad i farwolaeth. Cyfryngau yw geiriau i gludo syniadau fel y cludir y glaw gan y cymylau. Rhydd y gair adenydd i'r syniad; diriaethol yw'r gair a haniaethol yw'r syniad a gludir. Drwy'r gair y daw'r haniaethol pell yn agos atom a theimlwn rin ei gymdeithas. Cawn