Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mewn celfyddyd ac mewn geiriau. Dyma un agwedd ar neges Keats yn ei Awdl i'r "Grecian Urn." Gwêl arni'r dyrfan dod i aberthu at yr allor werdd, a'r offeiriad yn arwain yr aner ieuanc a frefa tua'r nen. Gwag yw'r dreflan o ba le y daethant, bythol ddistaw fydd ei heolydd, ac ni all neb ddychwel i egluro ei hang- hyfanedd-dra hi. Onid oes cyffelybrwydd amlwg rhwng yr arlun- ydd a'r cyfieithydd? TREVOR O. DAVIES. Trefeca. ADDYSG GYFUN Bum yn petruso'n hir cyn derbyn y gwahoddiad caredig i annerch Cymdeithas Addysg Grefyddol yng Nghymru yn y Rhos eleni, a hynny'n bennaf, am na theimlwn fod unrhyw gymhwyster arbennig ynof i wneud hynny. Nid wyf wedi arbenigo yn yr Ysgrythurau, er enghraifft, er bod gennyf ddiddordeb byw ynddynt, ac er i mi fod, am gyfnod, yn ceisio rhoi hyfforddiant mewn Addysg Grefyddol mewn Ysgolion Gramadeg. Yr unig beth a allwn ddweud, efallai, yw i mi fod yn aelod eglwysig am flynyddoedd lawer, i mi fod yn aelod ac yn athro yn yr Ysgol Sul am fwy o amser na hynny, a'i bod hi'n arfer gennym fel teulu, fynychu'r capel yn weddol gyson o Sul i Sul. Nid oedd hynny, efallai, yn ddigon. Pan oeddwn yn y cyfyng-gyngor hwn, digwyddais gyd-deithio yn y trên â chyfaill y mae gennyf barch mawr iddo, a dyma fynd ati, fel y bydd dyn, i drafod hyn a'r llall a gosod y byd fwy neu lai, yn ei le. Yn ystod y sgwrs dyma sôn am gyd-gyfaill i ni a oedd yn dal swydd reit bwysig, a'm cyd-deithiwr yn gofidio'n fawr nad âi hwnnw ond yn anfynych iawn i gapel neu eglwys. Y drwg yw," meddai ef, na all siarad dros grefydd yn ei swydd." Fe gydiodd yr ymadrodd, rywsut, ac o feddwl cryn dipyn drosto, sylweddolais drasiedi'r fath sefyllfa-fod rhywun mewn swydd, waeth ba swydd yn y byd y bo, distadl neu bwysig, yn enwedig yn y byd sydd ohoni, ac yntau heb fedru siarad dros grefydd. Wel dyma her na allwn ei gwrthod. Os oedd ystyr o