Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pontarddyfi. GWELEDIGAETH YR AFRADLON O lygredd corsydd hendre bell Codaf olygon fry I'r bryniau lle mae awyr well, Lle ceidw 'Nhad ei dŷ, A drws agored i bob un Afradlon a ddaw ato'i hun." Uwch sawyr cibau, daw fm ffroen Aroglau mwyn y wlad Lle gwylia dafad dros ei hoen Ar feysydd glas fy Nhad, Lle clywir pibau gyda'r hwyr A phêr gynghanedd, Duw a wyr. Mwynach i'r glust na sẃn rhegfeydd Yw eu peroriaeth hwy, Brefiadau pell y glas borfeydd A'r gorlan glyd, ddiglwy'; Gwyn fyd na fyddwn innau'n ôl Yn nhŷ fy Nhad, o fewn ei gôl. Bellach cyfodi wnaf, a mynd O ddrycsawr cibau gwael Y wlad lle nad oes imi ffrynd I'r cartref golau, hael, Lle mae tiriondeb fel y môr A gwisg a gwledd a modrwy'n stor. W. D. P. DAVIES.