Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. HELYNT Y BECA. The Rebecca Riots gan V. Eirwen Davies. Gwasg Prif- ysgol Cymru, 1961. 87 tud., pris 3/6. Dyma lyfr buddugol Eisteddfod Caerdydd yng nghyfres ddwy-ieithog Gẃyl Dewi. Fel arfer, ar gyfer plant 11 i 13 oed y bwriedir ef, ond fel amryw o lyfrau'r gyfres hon gellir ei ddarllen gyda blas a budd gan bobl mewn oed yn ogystal. Tybiaf bod hyn yn gamp arbennig y tro hwn, gan y gellid disgwyl i'r plant ymddiddori yn y digwyddiadau cyffrous, a'r tô hyn yn achosion a chanlyniadau'r cynnwrf. Ond llwyddodd yr awdur i ddal y ddysgl yn wastad iawn rhwng adrodd yr hanes a chyfrif amdano. Ceir ymdriniaeth ofalus o achosion yr helynt, yn seiliedig ar yr awdurdod diweddaraf, sef llyfr yr Athro David Williams, tra ar yr un pryd cyflwynir hwy mewn ffordd y gall plentyn ysgol eu deall yn rhwydd. (Ceir enghraifft deg o hyn ar td. 24/25.) Llwyddir hefyd i gyfleu cyffro a hynodrwydd y digwyddiadau heb ddisgyn i ramantiaeth. Rhoddir i'n cynorthwyo ddau ddarlun, dau fap, ac argraffiad o ddau boster. Hwyrach y dylai'r ail fap fod yn fwy o faint er mwyn gallu nodi arno ragor o'r lleoedd y cyfeirir atynt yn y testun, megis Llechryd, Penbryn, Aberporth a Chynwyl Elfed. Yn sicr dylid fod wedi egluro Proclamasiwn Beca yn erbyn y dreth eglwys yn 1854, os ei ddefnyddio o gwbl Sylwais ar wael argraffu ar tudalen 69 (yn y Saesneg yn unig) lIe enwir y gwr a gymerodd ran Beca yn yr Hendy fel John Jones, yn Ue Hughes. Ond ar wahân i'r manion hyn, bydd y llyfryn hwn yn gaffaeliad i'r athrawon sydd yn ceisio dysgu hanes Cymru, yn ogystal ag i'w disgyblion. Aberystwyth MARIAN HENRY JONES THOMAS FRANCIS ROBERTS, 1860-1919. A Centenary Lecture by David Williams. Gwasg y Brifysgol, 1961; 48 td.; prís 2/6. Gan mai helaethiad yw'r llyfr hwn o ddarlith a draddododd yr Athro Williams yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, ar achlysur canmlwyddiant geni ail brifathro'r Coleg, mae'n naturiol mai ar T. F. Roberts, y Prifathro, y mae'r pwyslais. Datblygu ac ymhelaethu oedd hanes y Coleg yn ei ddydd, a dengys yr awdur i'r Prifathro Roberts fod yn fwy mentrus nag yr arferwyd credu amdano, gan ddechrau adrannau newydd yn y Coleg heb aros bob amser am y cyflenwad priodol o arian, athrawon ac adeiladau. Ceisir yma ei leoli ymhlith ei gyfoeswyr a chyd-efrydwyr disglair, megis J. E. Lloyd, Lleufer Thomas, Tom Ellis ac eraill. Amlinellir hefyd ei gyfraniad i ddatblygiadau addysg ganol-raddol, ac i'r mudiad i sefydlu Llyfrgell Genedlaethol. Rhoddir i ni'r manylion bywgraffiadol, ei gefndir gwerinol a Bedyddiedig, ei yrfa fel ysgolhaig yn y clasuron yn Rhydychen ac fel Athro yng Nghaerdydd. Down i ddeall paham y cyhoeddodd cyn lleied, gan iddo ddewis yn hytrach roi ei amser i hyfforddi ei fyfyrwyr ac i'w waith gweinyddol. Ond ar waethaf yr ymdriniaeth fanwl a gofalus ni ddadlennir cyfrinach ei bersonoliaeth. Erys yn gymeriad niwlog a phell. Aberystwyth « Marian HENRY JONES