Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Brenhiniaeth Duw.* "Gorau po leiaf y sonnir am frenin a brenhinoedd yn yr oes ddemo- crataidd hon" oedd y rhybudd difrifol a gefais gan gyfaill pan welodd destun y Ddarlith eleni. Y mae'n wir bod ein hoes yn werinol a bod y gair brenin yn ddieithr. Diflannodd y syniad o frenhiniaeth yn yr ystyr a roddid iddo gynt, ac ni chaiH y teulu brenhinol sylw arbennig ym meddyl- iau pobl ond ar achlysuron neilltuol yn eu hanes, fel geni, priodi a marw. Eithr nid yw hynny yn rheswm o gwbl dros anwybyddu lle'r brenin mewn cymdeithas, ac yn seremoniau crefyddol cenhedl- oedd cyfnodau yr H.D., nac ychwaith dros beidio ag adfer pwyslais y Beibl ar Frenhiniaeth Duw-y Brenin tragwyddol. Dewiswyd y testun hwn am y credwn mai astudiaeth ohono ydyw'r cymorth pennaf i amgyffred gwirionedd sylfaenol y Beibl, ac mai gwreiddyn anawsterau ein gwareiddiad anwar ydyw collfr gred mewn Duw personol sydd yn FRENIN TRAGWYDDOL. Tasg fawr yr Eglwys Gristionogol heddiw ydyw gorseddu'r gwirionedd am y frenhiniaeth hon ym meddyliau dynion. Oherwydd yr ymdrechion i wneuthur crefydd heb Dduw, a Humanistiaeth, a Chomiwnyddiaeth, a Gwyddoniaeth yn grefyddau ynddynt eu hunain i ddisodli crefydd a ddatguddir gan yr Ysgrythurau, anghenraid ydyw i Eglwys Dduw geisio adfer pwyslais y Beibl ar y Frenhiniaeth hon, dehongli Hanes yn ei goleuni, a dwyn pob gwybodaeth yng ngwahanol gylchoedd bywyd dan dreth iddi. Gellir dweud mai agweddau ar ei Frenhiniaeth ydyw pob gwirionedd arall a ddysgir am Dduw yn y Beibl-Duw cyfiawn a sanctaidd, Duw grasol a thrugarog-ond Brenin drwy'r cwbl i gyd. Yn grefyddol, pwysleisir heddiw "Unoliaeth y Beibl" sydd, fel Unoliaeth yr Eglwys, yn unoliaeth mewn amrywiaeth, a'r wythïen amlwg, y llinyn aur, sydd yn uno gwahanol rannau'r Beibl â'i gilydd, er pob amrywiaeth sydd ynddo, ydyw ei ddysgeidiaeth am Frenhin- Darlith Davies, 1960. Traddodwyd yn Salem, Aberystwyth, Mehefin 16, 1960 CYFROL cxvn. RHIF 503. EBRILL, 1962.