Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BRENHINIAETH DUW ffordd o deyrnasu. Ym mhoethder y frwydr rhwng ffydd ym mrenhiniaeth Duw a ffeithiau caled hanes rhaid i'r profiad crefyddol wrth deimlad a deall i gyd-gerdded i gydnabod dirgelwch Duw y Brenin gan mai Ef yn unig sydd yn gweled y ffordd i gyd tra na wêl dyn ond darn bach iawn ohoni. Heb i'r dirgelwch hwn ei orchfygu, fe lunia dyn dduw iddo'i hun i ffitio rhyw ffrâm bach o'i wneuthuriad ei hunan ac â i- herio praw terfynol Duw ei Hunan o'r dirgelwch. A'r praw hwnnw fel y gwyddom oedd mai awr y methiant ymddangosiadol yn hanes yr Arglwydd Iesu-awr y croes- hoelio-oedd awr fwyaf gogoneddus ei fywyd. Ni allodd gwrthod- iad dynion ohono atal Duw y Brenin rhag cyflawni ei fwriadau ar gyfer dynoliaeth gyfan. Defnyddiodd Duw y gwrthodiad i greu yr Eglwys Gristionogol, a'i neges hithau a'i braint "gyda Brenin y nef yn y fyddin" ydyw tystio i ddau ddatganiad mawr yr Ysgrythur am Frenhiniaeth Duw-dau ddatganiad y mae pob oes yn tystio i'w gwirionedd Un datganiad yn rhybuddiol: "Yr Arglwydd sydd Frenin- cryned y bobloedd," oblegid y mae ei frenhiniaeth yn her i wareidd- iad. Y datganiad arall yn fuddugoliaethus "Yr Arglwydd sydd Frenin-gorfoledded y ddaear," oblegid nid oes allu i'w ddiorseddu. Blaenclydach Gwilym H. Jones