Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn gyson ar falais a drwg? A yw'r beirniaid am gyhoeddi gwaeau yn erbyn Cinderella ac Aladdin am fod eu hanesion yn dangos rhinwedd diniweidrwydd ar draul methiant y drwgweithredwyr? Y mae'n briodol codi mater y chwedlau hyn oblegid ym maes llên gwerin ei wlad y dechreuodd Souvestre ar ei yrfa lenyddol. Yn wir, rhaid ei werthfawrogi yn gyntaf fel un yn perthyn i deulu Perrault a Grimm ac Hans Andersen. Y mae lle anrhydeddus i Souvestre fel arloeswr ym maes llên gwerin Llydaw, ochr yn ochr â Le Gonidec, Luzel a La Villemarqué. Y llyfr cyntaf i gyffroi diddordeb cyffredinol mewn pethau Llydewig oedd argraffiad cyntaf llyfr Villemarqué, 'Barzaz-Breiz' yn 1839. Ond cyn hynny yr oedd Souvestre wedi bod wrthi yn dyfal gasglu chwedlau a hanesion ar aelwydydd Llydaw. Yr oedd wedi bod wrthi er amser ei blentyndod, yn cerdded o gwmpas Morlaix, ei dref enedigol, yn gwrando ar storïau pobl cefn gwlad ac yn adrodd y storïau hyn gydag ychwanegiadau o'i eiddo ei hun i gynulleidfa o gyfeillion ieuainc. Yr oedd Souvestre yn ysgrifennu'r storïau i lawr yn Llydaweg yn gyntaf, er mwyn cadw mwy o'r blas gwreiddiol pan droswyd hwynt i'r Ffrangeg. Ffynhonnell llên gwerin y cenhedloedd i gyd, mae'n debyg, yw stôr cyffredinol o brofiadau sylfaenol, yn cynnwys y llawenydd, y gobaith a'r tristwch sy'n rhan o fywyd pawb. Ond fe adlweyrchir y profiad cyffredinol yma mewn dull arbennig yn ôl cyfansoddiad arbennig y gwahanol genhedloedd a'u hamrywiaethau daearyddol ac hanesyddol. Yr hyn sydd yn nodwedd arbennig y storïau Llydewig fel y ceir, er enghraifft, yn nau gasgliad Souvestre, T Llydawiaid Olaf' a'r 'Aelwyd Lydewig,' yw'r cyfuniad o'r seciwlar a'r crefyddol. Y maent yn tystiolaethu i waith efengylaidd yr hen seintiau, yn ymgodymu â syniadau paganaidd ac yn ceisio eu hasio wrth syniadau Cristionogol. Yn y storïau hyn yr ydym yn ôl mewn cyfnod 'pan nad oedd y llong hynaf ym mhorthladd Brest eto yn fesen' a phan 'yr oedd Crist a'i fam a'r seintiau yn ymweld yn gyson â Llydaw.' Yn amser Souvestre nid oedd yr hen Lydaw wedi diflannu yn gyfangwbl. Yn ôl Renan, yn siarad am y flwyddyn 1830, yr oedd cyflwr cymdeithas yn nhrefi Llydaw yn aros yr hyn ydoedd yn y pedair ganrif ar ddeg tra'r oedd yr ardaloedd gwledig yn cadw o hyd nodweddion y bedwaredd ganrif, sef adeg gweithgarwch yr