Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Nos, y Niwl a'r Ynys.* Y mae'r maes yr agorir arno yn y gyfrol ddiddorol hon mor gyf- oethog, a maintioli rhai o'r beirdd a drafodir mor fawr, fel y gellid yn hawdd ei chollfarnu am beidio â bod yn rhywbeth na fwriadwyd iddi fod. Amcan Mr. Llywelyn-Williams yw 'olrhain rhai yn unig o'r prif themâu rhamantaidd a ddenodd fryd y beirdd yng Nghymru rhwng 1890 a 1914.' Gan mai unedau lleol iawn yw'r themâu hyn, a chan eu bod yn cael eu hamgylchynu gan elfennau eraill yn y farddoniaeth, y maent yn llai grymus a sylweddol yn eu cyd- destunau nag ydynt fel rhannau o'r 'cefndir syniadol' y canolbwyntir arno yn y gyfrol. Eglura'r awdur, fodd bynnag, nad beirniadaeth lenyddol mo'r llyfr, ac wrth dorri allan y ffactor esthetig anhydrin enillir rhyddid i gyflwyno defnyddiau crai llenyddiaeth yn union- gyrchol ac eglur. Awgrymodd Arthur O. Lovejoy y dylai pob astudiaeth o ramant- iaeth gychwyn drwy gydnabod lluosogrwydd Rhamantiaethau. Dechreuir yr astudiaeth hon drwy gyfeirio at Williams Pantycelyn, Iolo Morganwg, rhamantwyr mawr Lloegr, mudiad rhamantaidd yr Almaen, ysgol ramantaidd Ffrainc, y Bardd Newydd yng Nghym- ru a'r adfywiad a gysylltir â John Morris-Jones, T. Gwynn Jones, W. J. Gruffydd, Silyn ac eraill, ond er bod termau trachywir megis 'lled-ramantiaeth' a 'neo-ramantiaeth' yn awgrymu toriadau llaw- feddygol wrth drafod y pwnc, y duedd yw ystyried y cyfan fel un mudiad mawr y cyfranoga beirdd yr adfywiad yng Nghymru o'i briodoleddau. Arweinia hyn at amwysedd weithiau. Pan ddywedir, er enghraifft, fod rhamantiaeth John Morris-Jones a'i gymheiriaid yn 'llawer cadarnach a mwy cyfannol' na rhamantiaeth ysgol y Bardd Newydd a'u blaenorodd, y mae'n anodd gwybod pa un ai'n fwy neu'n llai rhamantaidd y dylid ystyried W. J. Gruffydd, dyweder, wrth ochr Rhys J. Huws. Arweinia hefyd at beth dryswch. Ar gychwyn y bennod 'Y Cae Niwl' honnir bod y rhamantydd yn cael ei ddenu gan yr hyn y tybia ef sy'n hanfod mewn natur a'i fod yn credu bod gan y bardd 'allu arbennig i dreiddio (trwy rym ei ddych- ymyg) i'r hanfod hwn.' Dyma'r syniad sydd wrth graidd y Rham- Gan Mr. Mun Llywelyn-WUliams. Gwasg y uritysgoi. rns 12s. oc.