Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ein Profiad o Dduw. Y mae'n rhaid i'r credadun fod yn barod i ddadlau dros wir- ionedd crefydd. Dyma fan cychwyn llyfr newydd yr Athro Lewis. Nid oes unrhyw werth mewn crefydd a gymeradwyir am ei bod (dyweder) yn ddefnyddiol yn hytrach nag yn un wir; ac os yw crefydd yn wir, yna dylai fod modd dangos ei bod yn wir. (Dylem nodi nad am Gristionogaeth yn unig yr ysgrifenna'r Athro Lewis, eithr am grefydd yn gyffredinol, er bod Cristionogaeth ym mlaen ei feddwl. Y mae'n arfer y term "religion" am weithgareddau ac ymarweddiadau sy'n cynnwys rhyw ymwybyddiaeth o fod goruchaf; ac y mae'n dadlau'n effeithiol fod cyfeiriad at y goruchaf yn gynwys- edig yn amryfal amlygiadau crefydd i raddau pellach o lawer nag a dybiwn yn fynych.) Sut y dylem ddadlau dros wirionedd crefydd? Mater o dyst- iolaeth ydyw yn gyfan gwbl. Rhaid chwilio am y dystiolaeth, medd yr Athro Lewis, mewn profiad crefyddol, ac y mae'n helaethu'n bur fanwl ar natur profiad crefyddol. Yn y manylion hyn y gorffwys prif ddiddordeb y llyfr. Ni cheisiaf roddi crynodeb o'r deunydd hwn, ond yn unig nodi mai disgrifiad o bum haen wahanol o brofiad crefyddol yw deuparth y llyfr. Yn y traean olaf y mae'r awdur yn trafod pynciau fel symboliaeth a thraddodiad, celfyddyd a chrefydd, crefydd a'r goruwchnaturiol, gwyrth a gweddi, crefydd a moesol- deb, cyfarfyddiad annisgwyl a digyfryngedd. Deil yr Athro Lewis, felly, y gellir dangos bod crefydd yn wir drwy archwilio tystiolaeth o fath arbennig­hynny yw, tystiolaeth profiad crefyddol. Dichon y bydd hyn yn swnio'n debyg i'r hen Ymresymiad ar sail Profiad Crefyddol. Eithr y mae yna wahan- iaethau. Nod yr Ymresymiad yw profi bodolaeth Duw, tra nad yw'r Athro Lewis yn ei lyfr yn trafod bodolaeth Duw yn gymaint â gwirionedd crefydd fel cyfanrwydd. Ymhellach, nid yw'r Ym- resymiad hwnnw, yn y dull y cyflwynir ef fel arfer, yn argyhoeddi dyn am nad yw'r rhai sy'n ei gyflwyno yn rhoddi inni ddadansodd- iad difrifol o'r syniad anodd o brofiad crefyddol. Eithr bwriad yr Athro Lewis yw rhoddi inni'r cyfryw ddadansoddiad, yn fanwl iawn. Our Experience of God, gan H. D. Lewis. (Allen and Unwin, 1959). Tt. 301.