Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn wyrdd neu mai pedwar yw swm dau a dau. Onid oes felly rinwedd arbennig mewn credu yn Nuw? Os yw'r dystiolaeth yn derfynol mewn gwirionedd (fel y tybia'r Athro Lewis, i bob golwg) yna nid yw'r gwr nad yw'r credu namyn gwr yn gwneud camgymer- iad mewn rhesymeg. Y cyfan y mae arno ei angen i'w ddwyn at grefydd yw meddwl clir. Unwaith y gwêl yr hyn sy'n amlwg, ni ddylai lithro'n ôl. Nid oes angen iddo ddyfod i benderfyniad (ni wnawn hynny ynglŷn â lliw glaswellt); nid oes angen iddo ddewis, neu fynd ymlaen i wneud un dewis ar ôl y llall; ni ddylai gael ei boeni gan amheuon. Y mae'r ffordd yn glir o'i flaen, heb ddim i beri iddo wyro oddi arni. Onid yw hwn yn syniad rhyfedd am grefydd, yn arbennig felly pan ddaw oddi wrth awdur a ymosododd mor fynych ac mor huawdl ar y rheini nad yw eu syniad am grefydd yn cymryd o ddifrif ryddid ewyllys dyn? Yr wyf yn barod wedi nodi ym mha le y mae gwerth llyfr yr Athro Lewis-yn y disgrifiad craff a manwl o natur profiad crefydd- ol. Eithr y mae'n rhaid imi ddweud bod y llyfr, yn fy marn i, yn methu yn ei fwriad pennaf-sef, profi gwirionedd crefydd. Y mae'n methu am na wneir yn glir sut y mae profiad crefyddol yn dyst- iolaeth i hyn. Ac y mae'n methu am fod y math o brawf terfynol sydd ym meddwl yr Athro Lewis yn ei orchfygu ei hun o'r safbwynt crefyddol. Yn baradocsaidd, y mae'r "dystiolaeth" ar un olwg heb fod yn ddigon da, ac ar yr olwg arall yn rhy dda. Nid yw'n ddigon da, oherwydd (os ydym am gadw o fewn ffiniau rhesymeg) na fydd yr anghrediniwr yn barod i gael ei argyhoeddi gan brofiadau per- sonol pobl eraill, nad oes ganddo ond eu gair hwy am eu dilysrwydd -ac ni ellir ei feio am hyn. Y mae'n rhy dda, oherwydd (os yw'r Athro Lewis yn gywir) na all y credadun fyth ddweud: "Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i." THOMAS McPherson