Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

haeddiad rhelyw aelodau'r Ysgol Sul. Eto, y mae'n glod i ddelfryd yr awdur pan ymddangosodd y gyfres gyntaf, ac yn fath o wrogaeth i'w farn parthed chwaeth a deall darllenwyr y Greal. Am yr amcan, dywed mai "darparu i'r darllenydd rywbeth a fo'n werth iddo roi'i amser i'w ddarllen a'i arian i'w brynu ydoedd." Dyna'r nod, gan hynny, a osododd John Williams drwy'r ysgrifau hyn ar ddechrau 1855: ac er cydnabod ohonof gynnwys golau a chwaethus yr Eurgrawn, y Dysgedydd a'r Traethodydd nid oes enghraifft hafal yn yr un ohonynt yn y math hwn o lenyddiaeth, ganol y ganrif ddiwethaf, i'r gyfres a ymddangosodd yn y Greal yn 1855-56. Yn ei ragymadrodd i'r gyfrol (1890), meddai Dr. Owen Davies: "Gorchest fawr i Gymro hunan-addysgol ydoedd ysgrnennu'r penodau hyn agos i 40 mlynedd yn ol Nid oedd gramadeg Winer wedi'i gyfieithu yn y wlad hon y pryd hynny." Dywedodd Cynddelw, cofiannydd J.W., rywbeth yn debyg: "Ffrwyth ei sylwadaeth ef ei hun yw'r erthyglau dysgedig a chywrain ar Ffugyrau Ymadrodd sydd yn y Greal, canys nid oedd Winer o fewn ei gyrraedd." Gan i'r ddau wneuthur sylw tebyg am Winer, nid amhriodol efallai fydd galw i gof un ffaith ddiddorol am gyfieithiad Phila- delphia (1840) o waith Winer. Gwir na chyfieithwyd y gwaith yn y wlad hon yn 1855. Ond yn ei ragymadrodd i'r argraffiad cyntaf o'r cyfieithiad Saesneg (1870) cyfeiria F. W. Moulton at gyfieithiad a gyhoeddwyd gan y Meistri Clark yn 1859, a hefyd at gyfieithiad gan Meistri Agnew & Ebbeke, Philadelphia, 1840. Mwy na hynny, y mae'n rhyfedd na sylwodd Owen Davies a Chynddelw fod J.W. yn cyfeirio ddwywaith at Winer yn Ffugyrau y Beibl. Felly, y mae lle i gredu y gwyddai am argraffiad 1840 onid oedd hefyd yn gyfarwydd â'r gwaith. "Mae rhai, megis Fritzshe, Meyer, Lachman a Winer wedi haeru nad oes i'r cysylltiad 'fel' ddim ond un ystyr, nid amgen yr un dybenol neu amcanol." Ac wrth drafod yr un 'fel' mewn lle arall, dywed J.W. fod ystyr bwysig arall iddo; un o'r darganfyddiadau mwyaf gwerthfawr. "Dywed rhai dehonglwyr megis De Wette, Olhausen a Winer nad oes i 'fel' byth yr un ystyr namyn yr un telecaidd, a lled anfod-