Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TBAETHODYDD "Noddfa yn yr ArcholT* Yr hoelion geirwon caled Gynt a'i trywanodd E', Sy'n awr yn dal y nefoedd Gwmpasog yn ei lIe. Felly y canodd Williams, gan daflu arwyddocâd gweithred y Groes ar gynfas mor eang â'r bydysawd. Mewn oes na wyr mwyach ystyr geiriau fel 'pechod,' 'yr iawn' a'r 'prynedigaeth/ sut y medrwn ni ddeall arwyddocâd y Groglith? Y mae dyfnder o werth mewn dyn nas datguddir ond i lygaid cariad. Ni fedrwn ddiffinio'r gwerth hwn ond drwy ddweud mai gwerth diamodol ydyw-unconditional worth. Eithr drwy lygaid cariad y gwêl Duw bob dyn. Y mae'r dyfnder gwerth sydd ym mhob dyn, gan hynny, yn 'noeth ac agored' i lygaid Duw. Dyma'r unig olwg gwbl wrthrychol ar y ddynoliaeth, lle y gwelir hi yn union megis ag y mae, sef yr olwg sydd arni i Dduw a phob aelod unigol ohoni, oblegid yr hyn ydyw ynddo'i hun, yn wrthrych cariad Duw. Fe ddeuwn ni yn nesaf at gael yr un olwg ar ddynion, yr un cipdrem i ddyfnder eu gwerth, pan fônt yn wrthrychau ein cariad ninnau. Mae bod i bersonau werth diamodol, annirprwyadwy, yn gwbl eglur i ni yn achos y personau yr ydym ni yn eu caru. Yn awr, yr hyn a ddengys mai o Dduw y mae moeseg y Testa- ment Newydd yw ei bod hi yn galw arnom i weld y gwerth hwn ym mhob dyn. Dyry hyn arni wedd a alwaf yn 'drosgynoldeb' (transcendence). Lleiafswm ei gofyn yw ar i ni ymatal rhag gwneu- thur i unrhyw greadur o ddyn bethau nas gwnaem, ac na freudd- wydiem am eu gwneud, i'r rhai sy'n cyfrif yn ein golwg. Ei mwyaf- swm yw ar i ni fynd yn wastad y tu hwnt i'r gofyn mewn ildio ein mantais i arall: 'Pwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy/ Drwy ddangos tuag at ein cyd-ddyn y parch pellach hwn Darlledwyd ar Raglen Cymru, y Groglith 1962. CYFROL CXVII. RHIF 504. GORFFENNAF, L962