Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfieithiad Newydd Cymraeg o'r Beìblt Ym mis Mawrth eleni rhoddwyd sylw arbennig yn y wasg i ben- derfyniad Eglwysig yng Nghymru i godi pwyllgor i gyfarwyddo'r gwaith o gynhyrchu cyfieithiad newydd o'r Beibl yn Gymraeg, ac un nodyn diddorol iawn ynddo yw bod y Pabyddion am gydweithio. Ni wn i nemor ddim am y Pwyllgor, na'i fwriad ynghylch paratoi ar gyfer y dasg, ond y mae gennyf ddiddordeb yn y pwnc yn gyff- redinol-fe1 pob Cymro a gafodd fagwraeth grefyddol. Ac y mae gennyf hefyd wybodaeth, oherwydd fy ngwaith beunyddiol, o'r hyn y gellid ei ddisgwyl wrth ddechrau ar y gwaith. Oherwydd hyn manteisiaf ar gyfle a roddir mewn darlith gyhoeddus, ac mewn ysgrif yn Y Traethodydd — y lIe priodol i drafod pethau o'r fath! -i sôn am rai o'r problemau gan hyderu y gallaf oleuo'n gwerin ar natur y gwaith, a hefyd, efallai, berswadio'r Pwyllgor i edrych o'u cwmpas a braenaru'r tir yn bur drwyadl cyn dechrau hau yr had. Mynegodd John Eilian, yn yr Herald Cymraeg y llynedd, fod angen cyfri'r gost yn ariannol; 'r wyf innau'n meddwl yr un fath o safbwynt y gwaith. Wrth gwrs, y mae'n naturiol i ni yng Nghymru gyfranogi o'r brwdfrydedd cyffredinol sydd wedi codi yn sgil y New English Bible a'r Revised Standard Version. Edrychwn hefyd gydag edmygedd ar nifer go helaeth o gyfieithiadau newydd yn Saesneg, llai swydd- ogol, a ymddangosodd yn ystod y ganrif hon. Y maent yn boblog- aidd, yn ddiddorol, ac weithiau, yn dda iawn. Gallaf feddwl-heb fynd i chwilio ymhellach­am gyfieithiad Rieu o'r Efengylau yng nghyfres y Pelican, a Phillips, sy'n cael ei ddyfynnu yn ein pulpudau heddiw bron mor aml ag y byddai cyfieithiad Moffatt ddeugain mlynedd yn ôl. I mi, yr un mwyaf darllenadwy yw cyfieithiad Ronald Knox, y Pabydd, a gafodd hwylustod arbennig gyda'r Testa- ment Newydd, ac y mae ei drosiad o'r Hen Destament hefyd yn effeithiol iawn weithiau. Y mae'n debyg mai cyfieithiad Smith a Goodspeed (The Complete Bible, An American Translation) — y Chicago Bible fel y'i gelwir, yw'r cywiraf, ond y mae braidd yn drymaidd, a gormod o ôl llafur arno. Cyfieithiad da iawn arall yw'r un gan Babyddion America, a elwir The Confraternity Version of the f Traddodwyd cynnwys yr ysgrif hon mewn darlith gyhoeddus yn y Rhos, Wrecsam, fel un o'r darlithoedd coffa i'r diweddar Emlyn Rogers, dan nawdd Adran Etrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Bangor.