Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Odlau'r Efengyl'* Pwnc dyrys iawn fyddai ceisio olrhain hanes cyhoeddi'r rhannau o "Odlaur Efengyl," sef y trosiadau o emynau Sankey gan Watcyn Wyn, am nad yw'r dyddiadau arnynt. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf, mae'n debyg, yn Chwefror, 1882, ac fe gafwyd wedi hynny naw rhifyn arall. Y teitl yn llawn oedd, Odlau'r Efengyl, sef yr Hymnau Diweddaraf a genir yng Nghyfarfodydd y Mri. Moody a Sankey, a Chyfarfodydd Dirwestol Mr. R. T. Booth. Fe'u cyhoedd- wyd gan B. Parry, Abertawe, ond nid oes sicrwydd pa beth a ysbryd- olodd Watcyn Wyn i'w trosi i'r Gymraeg. Mae'n debyg iddo glywed Sankey yn canu o leiaf unwaith, canys wrth gyfeirio at un o emynau "Odlau'r Efengyl" dywedodd: "Cyfieithiad yw o emyn glywais yn cael ei ganu gan Sankey." Ar wahân i ddeg o'r emynau, cyfaddasiadau a geir o'r emynau a gynhwyswyd gan Sankey yn y gyfrol Sacred Songs and Solos. Ymhlith y deg hyn ceir dau o waith awduron Cymraeg eraill, er nad yw Watcyn Wyn yn cydnabod hynny. Yr emynau hyn yw: "Marchog Iesu yn llwyddiannus" (Rhif 40). "Craig yr oesoedd! ynot ti" (Rhif 41). Mae'n debyg i'r wyth emyn arall gynnwys rhai o'r emynau a genid yng nghyfarfodydd R. T. Booth. Yn 1894, ymddangosodd dau rifyn arall yn dwyn y teitl "Odlau Ychwanegol," ac felly yn y deu- ddeg rhan ceir 161 o emynau, ac ar wahân i'r ddau emyn a nodwyd eisoes, yr oedd y rhain yn drosiadau graenus o waith Watcyn Wyn. Er bod gwahaniaeth rhwng yr emynau hyn a'r emynau traddod- iadol Cymraeg a efelychodd ddulliau Pantycelyn, dylid cofio mai ffrwythau cynyrfiadau crefyddol tebyg oeddynt. Mudiadau neu ddiwygiadau efengylaidd a'u creodd; cynnyrch y Diwygiad Meth- odistaidd oedd emynau Pantycelyn, a chasglwyd yr emynau Americanaidd ar gyfer eu canu yng nghyfarfodydd diwygiadol Sankey a Moody. Nodwedd amlycaf unrhyw ddiwygiad yw'r pwyslais a roddir ar wres ac angerdd crefyddol, a dyma'r teimlad y cyfeiriwyd ato gan y gohebwyr Cymraeg wrth sôn am ddiwygiad