Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er bod llu o linellau tebyg yn emynau Pantycelyn, ar adegau, mae'r ymdeimlad ei fod yn perthyn i "hil syrthiedig Adda" yn pwyso'n drwm ar ei ysbryd. O ganlyniad, fe'i ceir yn gwamalu rhwng y gred ffyddiog ei fod eisoes wedi ei achub, a'r petruster fod ei bechodau'n rhy lluosog hyd yn oed i'r gwaed ei waredu. "Ofni bod fy meiau'n taro Yn erbyn iechydwriaeth rad, Ac na chaiff fy enaid egwan, Fyth ei olchi yn y gwaed." Gwelsom mai Duw'r cariad yn unig a bortreadir yn emynau Sankey; y tad rhadlon a gofleidia ei blant wedi iddynt droi o'u llwybrau cyfeiliornus. Er bod y syniad o Dadolaeth Duw yn dra chyffredin yn emynau William Williams, weithiau drwy'r darlun hwn fe dreiddia'r syniad o Uwchfodaeth Duw. Fe'i brawychir ar adegau gan "Angeu, uffern fawr, a'r bedd, Llid y Barnwr mawr a'i wedd." O ran rhagoriaeth emynyddol, prin y gellir cymharu emynau Odlau'r Efengyl ag emynau Pantycelyn. Ar adegau, mae'r teimlad sy'n elfen hanfodol yn yr emynau efengylaidd, yn ymddangos yn arwynebol hollol yn emynau Sankey. Wrth anelu at greu emynau poblogaidd a fyddai'n apelio at y werin, 'roedd yr emynwyr Americanaidd yn dueddol weithiau i droi'r teimlad hwn yn goegfeddalwch. Er bod trosiadau Watcyn Wyn o'r emynau hyn yn dra chaboledig, eto, maent yn hollol amddifad o angerdd y profiad Cristnogol a ysbryd- olodd emynau Pantycelyn. O ganlyniad, cawsant dymor o boblog- rwydd, ac yna, megis y tonau cyfoesol y cyfansoddwyd hwy arnynt, fe'u diystyrwyd ac fe'u anghofiwyd yn raddol. Nid oedd y gwaith o'u cyfieithu yn ofer, serch hynny, oblegid hwy a gyffrodd awen emynyddol Watcyn Wyn ac a roddodd iddo'r patrymau i'w emynau gwreiddiol. Merthyr Tudful W. J. Philups