Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

â'r maes ac sy'n tywys y darllenydd at agwedd neu agweddau mwy astrus ac at astudiaethau arbenigol a manwl; (ib) rhai y cyflwynir ynddynt gan yr awduron eu safbwynt a'u dulliau personol hwy eu hunain, a hynny weithiau ar draul anwybyddu barn ysgolheigion eraill; (c) rhai na chymerir yn ganiataol ynddynt fod gan y darllenydd unrhyw wybodaeth arbenigol ymlaen llaw am ieithydd- iaeth ac sy'n ceisio rhoi cipolwg iddo ar yr holl faes gan drafod y prif agweddau ar astudio iaith fel disgyblaeth academig. Yng Nghymru, ysywaeth, ychydig iawn o ddylanwad tueddiadau diweddar ym maes astudio iaith a amlygwyd mewn gweithiau printiedig. Fe gafwyd, mae'n wir, ymhlith traethodau ymchwil Prifysgol Cymru gnwd lled sylweddol o ffonograffau yn delio â rhai agweddau ar nifer o dafodieithoedd Cymraeg, yn arbennig yn ystod y deng mlynedd olaf hyn. Ond hyd yn hyn ni chyhoedd- wyd llawer iawn o ffrwyth yr ymchwil pwysig hwn. Yn wyneb hyn mae'n ffodus efallai mai enghraifft o'r trydydd teip o lyfr a nodais yw cyfrol ragorol Mr. Arwyn Watkins. Rhagarweiniad ydyw i astudio rhai agweddau ym maes ieithyddiaeth gyffredinol. Rhoddir yma le canolog i gyfansoddiad yr iaith Gymraeg ac o'r diwedd caiff yr iaith lafar, yr iaith fyw gyda'i holl gymhlethdod a'i holl anghysonderau, y sylw y mae yn ei haeddu. Fe ddylai'r gwaith hwn gael croeso brwd iawn. Yn wahanol i lawer sy'n traethu ar ieithyddiaeth mae gan Mr. Watkins y ddawn i ysgrifennu'n llithrig ac yn flasus. Os oes gan y darllenydd fymrvn o ddiddordeb mewn astudio iaith mae yn sicr o fwynhau'r gyfrol yn gyfan. Fel yr awgrymwyd, astudiaeth ieithyddol o ddulliau'r Gymraeg a geir yma yn bennaf, er y cyfeirir yn fynych at ddulliau ieithoedd eraill. Caiff arferion Llydaweg llafar, yn arbennig yn yr adrannau sy'n delio â ffurfiau ac â thafod- ieitheg, gryn dipyn o sylw. Dyma un o ragoriaethau'r llyfr. Mae'n gwbl amlwg y gall astudiaeth gymharol o dafodieithoedd Cymraeg a Llydaweg fod yn dra buddiol a ffrwythlon. Rhoir y rhan fwyaf o sylw i'r wedd syncronig er nad esgeulusir pynciau diacronig, pynciau a gafodd wrth gwrs fwy o sylw o'r blaen mewn gweithiau yn ymwneud â hanes yr iaith. Er bod Mr. Watkins yn cydnabod yn gyson mai'r forffem yw'r eitem ramadegol leiaf a'r uned syl- faenol mewn pob dadansoddiad gramadegol y mae'r hen ddull o ddisgrifio iaith drwy drafod gair a rhediad eto yn ddigon amlwg. Mae'r geidwadaeth hon yn ddigon iachus. Yn dilyn rhagair byr iawn trafodir yn gyntaf y weithred lafar. Disgrifir yn gryno yr organau llafar a chynaniad seiniau. Yna cyflwynir yn syml a chlir ddigon y ddamcaniaeth ynglyn â'r ffonem, damcaniaeth sydd wedi ymgartrefu yn Lloegr ers deugain mlynedd a mwy. I bob golwg mabwysiadodd Mr. Watkins ddiffiniad Daniel Jones o'r ffonem gyda'r syniad am brif aelod ac aelodau isradd. Nodir patrymau ffonemegol nifer o dafodieithoedd Cymraeg gan sylwi ar rai gwahaniaethau diddorol rhyngddynt. Yn yr un bennod y trafodir y ffonemau gorsegmental (neu brosodig) hyd, acen a thôn. Mae'r adran sy'n delio â thôn yn arbennig o ddiddorol. Yn dilyn eglurir beth yw morffem ac ymdrinir yn gryno â chategorïau morffolegol rhif, amser, cymhar. iaeth, person a chenedl. Ceir sylwadau ar gyfnodau'r ieithoedd Brythonig