Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CREFYDD A MEDDYGAETH II Cytunir yn lledgyffredinol heddiw fod i afiechydon dri dosbarth mawr, sef y somatig, y seiconiwrotig, a'r seicosomatig-enwau sy'n hunan-esboniadol. Ond dylid cofio nad ystyriaethau cyfyngedig a phenodol yw'r rhain ond grwpiau o afiechydon heb ffin bendant rhyngddynt-am y rheswm syml fod corff a meddwl yn gyd- ddibynnol ac yn anwahanadwy yn eu hymateb i symbylau cnawd ac ysbryd. Ar y cyfan cyfyd afiechyd somatig o ganlyniad ryw newid organig batholegol yn y corff, boed enetig, boed lidiog, boed wenwynol efallai; ceir ymateb seiconiwrotig o ganlyniad adwaith annormal yn y meddwl, yn aml gydag arwyddion corfforol, i'r hyn a dybir yn weddol normal; afiechyd seicosomatig ar y llaw arall yw canlyniad diffyg ymatebiaeth naturiol neu gyflawn i anawsterau bywyd oherwydd rhyw adeiladwaith arbennig yng nghyfansoddiad dyn. (Teg yw cydnabod fod llawer yn rhestru'r afiechydon seico- niwrotig a seicosomatig gyda'i gilydd.) Afiechyd seicosomatig amlwg yw asthma, hefyd rhai o friwiau'r stumog ac o glefydau chwarren y theiroid; a dylid cofio fod yr anhwylderau hyn weithiau'n farwol. Adweithiau corfforol arbennig yw'r rhain, nid pawb a ymetyb i'w symbylau yn y fath fodd er bod rhyw duedd felly ynom i gyd. Dichon y gellir cynnwys eraill o'r clefydau mawr cyfoes yn y dosbarth seicosomatig hwn, megis 'coronary Thrombosis,' pwysedd-gwaed uchel a dirywiadau yn y rhedweliau; ni wyddys eto beth yw'r cysylltiad, os oes yn wir gysylltiad o gwbl, rhwng pryder meddyliol, prysur-bwyso, siom- edigaethau a phrofedigaethau, â'r clefydau cawraidd hyn. Er gwaethaf yr holl doreth o ,archwiliadau ac arbrofion gwyddonol manwl i ansawdd y clefydau hyn dichon na ddown byth i wir adnab- yddiaeth ohonynt heb roi hefyd ystyriaeth gytbwys i'r hyn a alwyd gan feddyg blaenllaw yn ddiweddar fel yr ochr arall i feddygaeth.' Hon yw'r antithesis i'r thesis wyddonol a rhaid ei pharchu. Hebddi cleifion gydag afiechyd a welwn ac nid cleifion mewn afiechyd. I ddeall dyn fel personoliaeth gyflawn, boed ef iach neu afiach, nid